‘Ymddygiad negyddol yn amlwg’ o fewn colegau medd Estyn
‘Ymddygiad negyddol yn amlwg’ o fewn colegau medd Estyn
Mae ymddygiad gwael gan fyfyrwyr mewn colegau yng Nghymru yn ‘amlwg’, gydag adroddiad yn amlygu enghreifftiau o aflonyddu rhywiol, camddefnyddio sylweddau a thrais.
Yn ôl adroddiad gan Estyn i ymddygiad dysgwyr mewn colegau, mae nifer o fyfyrwyr yn cyrraedd yn hwyr, absenoldeb, defnydd amhriodol o gyfryngau cymdeithasol, a fepio yn faterion sy’n cael eu hadrodd yn aml.
Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu fod grwpiau o ddysgwr gwrywaidd, yn enwedig rhai sydd ar gyrsiau fel adeiladu, yn fwy tebygol o ddangos ymddygiadau negyddol.
Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ymweliadau â saith coleg: Coleg Pen-y-bont, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Cambria, Coleg Gwent, Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, Coleg Sir Benfro, a Choleg Catholig Dewi Sant.
Mae hefyd yn cynnwys safbwyntiau staff, dysgwyr a chynrychiolwyr undebau.
Yn ôl yr adroddiad, mae myfyrwyr LHDTC+ yn anghyfartal o agored i fwlio ac aflonyddu o fewn y colegau, ac mae myfyrwyr niwrowahanol yn wynebu anawsterau â rheoleiddio emosiynau a rhyngweithio â chyfoedion.
Mae sôn bod y pandemig yn parhau i gael effaith ar ymddygiad y dysgwyr wrth iddyn nhw arddangos oedi datblygiadol, ac anallu i ymdopi â phwysau academaidd.
Mae “ansicrwydd ariannol yn tanseilio ymdrechion i sefydlu ymagwedd gyson a chynaledig at reoli ymddygiad dysgwyr” meddai’r adroddiad.
Yn aml, mae colegau’n dibynnu ar ffrydiau cyllido tymor byr, sydd, yn ôl yr adroddiad, yn rhwystro’u gallu i roi strwythurau tymor hir ar waith, neu gadw staff medrus.