
20 mlynedd o YouTube: Dylanwad ar genhedlaeth
20 mlynedd o YouTube: Dylanwad ar genhedlaeth
Postiwyd fideo gyntaf platfform YouTube 20 mlynedd yn ôl, ac mae'r 20 mlynedd ers hynny wedi gweld ei boblogrwydd yn tyfu a thyfu.
Dechrau yn 2005 fel platfform arbrofol i rannu fideos byrion oedd bwriad Youtube, ond bellach mae wedi troi'n ffenomenon fyd-eang – ac eleni, mae'n dathlu 20 mlynedd o gynnwys.
Mae pobl ifanc heddiw yn troi at fideos YouTube ar gyfer eu hadloniant - gan gynnwys disgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.
Dywedodd un o'r disgyblion wrth Newyddion S4C: “Mae lot o stwff ti’n gallu gwylio arno fe fel tiwtorials, gaming, bron unrhywbeth.
“Ti’n gallu searchio lan beth ti moyn a ddim pigo sianel a pethau."

Yn ôl adroddiad Ofcom yn 2023, YouTube yw’r platfform ar-lein mwyaf poblogaidd o hyd ymhlith plant a phobl ifanc 3 i 17 oed yn y DU, gydag 88% yn ei ddefnyddio’n rheolaidd.
Ar gyfer pobl ifanc 12-15 oed, mae YouTube yn ffynhonnell newyddion arwyddocaol, sy’n cael ei ddefnyddio gan 25% o'r grŵp oedran yma.
Ers dechreuad YouTube yn 2005, mae’r platfform wedi datblygu i fod yn gawr ymysg platfformau creu cynnwys, gan gynnig cyfle i greu bywoliaeth erbyn hyn.
Mae Tom o Aberdâr yn brawf o hynny a’i sianel ‘ReniDrag’ gyda 650,000 o danysgrifwyr.
“Rili dechrauais yn 2021 a dyna lle gwnes i ddechrau uploadio pob dydd. Dyddiau yma mae YouTube, onest, mae mor enfawr.
"Mae mynd i fod yn ddyfodol i pobl sydd ishe mynd mewn i YouTube a gweithio ar YouTube am yr hir dymor.”
Ond gyda dros 2.6 miliwn fideo yn cael eu uwchlwytho i Youtube yn ddyddiol, ar fuarth Ysgol Llangynwyd mae pryder hefyd ynghylch diogelu pobl ifanc rhag gweld cynnwys anaddas a niweidiol posib.
Dywedodd Owain Tudur, Uwch-arweinydd addysgeg bugeiliol yr ysgol wrth Newyddion S4C: “Ma’ testunau sydd allan yna, yn aml ‘da ni’n clywed am bobl yn mynd lawr trywydd ac yn cael mynediad at fideos sydd ddim yn addas at bobl ifanc a plant.”
Mae rhai o’r disgyblion wedi profi’r union sefyllfa ac yn cytuno:
“Ma' rhai pobl yn rhoi rili inappropriaete stuff ar YouTube oherwydd ma’ pobl yn postio amdano fe a wedyn fydd pobl ifanc yn gweld e a mynd arno YouTube i weld e.”
Yn ôl Alun Jones, arbenigwr yn y maes digidol a chyfarwyddwr Cwmni Libera, addysgu am yr hyn sydd medru cael ei wneud i ddiogelu pobl ifanc yw’r neges.

“Ma’ ‘na bethau fel supervised access sy’n rhoi’r pŵer i’r rhieni i gau off pethau penodol ar y platfform.
"Ma’ ‘na rhyw fath o ddiogelwch ar y platfformau yna ond ’falle bod modd gwneud mwy.”
20 mlynedd o gynnwys a 5.1 biliwn fideo yn ddiweddarach, mae YouTube wedi sefydlu ei hun ym mywyd yr unfed ganrif ar hugain, a gyda nifer y defnyddwyr yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn, pwy a wŷr beth fydd hanes YouTube yn 2045?