Mark Williams yn cyrraedd rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd
Mae'r Cymro Mark Williams ar ei ffordd i rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd ar ôl iddo guro John Higgins yn y Crucible o 13-12 ffrâm.
Roedd hi'n 8-8 wrth i'r chwarae ail ddechrau ddydd Mercher, ac oherwydd camgymeriadau Higgins, cipiodd Williams bedair ffrâm gyntaf y sesiwn.
Ar un adeg, ar ddechrau'r ornest, roedd Williams ar ei hôl hi 5-1.
Ddydd Mercher, cipiodd yr 20fed ffrâm, ond bu'n rhaid iddo aros yn ei gadair am gryn gyfnod wedi hynny ar ôl i Higgins daro'n ôl.
Cafodd y ddau chwaraewr gyfle i ennill y ffrâm olaf, ond wedi i Higgins fethu gyda'r belen las, manteisiodd y Cymro 50 oed ar hynny i hawlio'r fuddugoliaeth.
Mark Williams yw'r chwaraewr hynaf i gyrraedd y pedwar olaf, ers i'r Cymro, y diweddar Ray Reardon gyflawni hynny yn 1985.
Bydd yn wynebu Luca Brecel neu'r chwaraewr sy'n rhif un y byd, Judd Trump yn y rownd gyn-derfynol.