Rhybudd am algâu gwyrddlas mewn llyn yng Ngwynedd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cyhoeddi rhybudd am algâu gwyrddlas mewn llyn yng Ngwynedd.
Dywedodd yr awdurdod mewn datganiad na ddylai pobl gyffwrdd â'r algâu gwyrddlas yn Llyn Tegid yn Y Bala.
Mae algâu gwyrddlas yn fath o facteria sy’n bodoli'n naturiol mewn llynnoedd ac afonydd.
Mae’r bacteria yn ffynnu mewn dŵr cynnes sydd yn llawn maetholion – ac os oes gormodedd o faetholion, gall algâu niweidiol ffurfio.
"Byddwch yn ofalus o gwmpas y llyn a pheidiwch â chyffwrdd yr algâu," meddai llefarydd ar ran yr awdurdod.
"Os byddwch yn ymweld â Llyn Tegid, cofiwch ddarllen yr wybodaeth diogelwch ar y byrddau gwybodaeth o gwmpas y llyn."
Daw'r rhybudd yn sgil pryderon am effaith yr algâu gwyrddlas ar iechyd pobl ac anifeiliaid.
Bu farw dau gi Dani Robertson-Phillips o Ynys Môn, Bucky a Luna, yn 2020 ar ôl nofio yn Llyn Maelog.
Mae’n debygol eu bod wedi cael eu gwenwyno gan yr algâu gwyrddlas.
Beth yw algâu gwyrddlas?
Mae algâu gwyrddlas yn ffenomenon naturiol sydd wedi digwydd yn Llyn Tegid ers blynyddoedd lawer.
Mae’n ymddangos yn bennaf yn ystod cyfnodau o dywydd braf, poeth a gellir ei adnabod yn hawdd o’r llysnafedd lliw gwyrdd llachar sy’n arnofio ger lannau’r llyn.
Mae algâu gwyrddlas yn wenwynig i bobl ac anifeiliaid, a gall cyswllt â’r croen, neu amlynciad achosi salwch ysgafn i ddifrifol. Mae’r symptomau’n cynnwys:
- Brechau croen
- Llid llygad
- Cyfogi
- Dolur rhydd
- Twymyn
- Poen cyhyrol neu yn y cymalau