Dynes o Abergele yn galw am godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofarïau
Dynes o Abergele yn galw am godi ymwybyddiaeth o ganser yr ofarïau
"Ma’ nhw’n galw canser yr ofarïau yn un o’r silent killers achos ma’ nhw’n deud bod ‘na ddim symptomau. Ma’ ‘na symptomau, ‘dan ni jest ddim yn 'nabod nhw."
Mae angen "codi gêm" wrth godi ymwybyddiaeth am ganser yr ofarïau, yn ôl dynes o Abergele a gafodd ddiagnosis yn 2023.
Yn ôl elusen Ovacome, mae tua 7,500 o achosion newydd o ganser yr ofarïau bob blwyddyn yn y DU.
Ddiwedd Awst 2023, fe ddechreuodd Sioned Wyn Green, 55, synhwyro fod "rhywbeth ddim yn iawn".
"O'n i'n dueddol o fod wedi blino yn fwy na'r arfer, poen yn gwaelod fy nghefn, codi yn ystod y nos i fynd i'r toiled yn amlach, ag eto, doedden nhw'n ddim byd chwaith. Oedden nhw yn rhyw bethau bach o'n i'n gallu diystyru ag ysgwyd nhw i ffwrdd," meddai wrth Newyddion S4C.
"Dim byd mawr o gwbl, o'n i jest yn meddwl bo' fi'n mynd drwy'r menopos."
Wedi iddi deimlo lwmp caled yn ochr dde ei hystumog, fe aeth Sioned at ei meddyg teulu lleol a chael prawf gwaed CA125.
Mae prawf gwaed i fesur lefelau CA125 yn gallu helpu wrth roi diagnosis o'r canser. Mae CA125 yn brotein yn y gwaed sy'n gallu codi gyda'r canser, ac mae unrhyw beth o dan 35 uned i bob ml yn cael ei ystyried yn arferol.
Yn achos Sioned, roedd ei lefelau dros 4,000.
Dangosodd sgan yn ddiweddarach fod gan Sioned cyst ar yr ofarïau oedd yn 31cm ac y byddai angen llawdriniaeth ar frys.
"O'n i'n gwybod fy mod i'n wynebu llawdriniaeth o hysterectomi llawn ag oedden nhw'n meddwl falle os oedd yna rywbeth yn y bowel, bydde rhaid taclo hwnna hefyd," meddai.
Wedi'r llawdriniaeth, fe gafodd Sioned wybod fod y canser wedi ymledu i'r organau eraill, gan gael diagnosis o gam 4B ym mis Hydref 2023.
Cafodd driniaeth bellach cyn mynd ymlaen i gael cemotherapi a blwyddyn o imiwnotherapi yn ddiweddarach.
'Dychryn rhywun'
Nid yw mwyafrif yr achosion o'r canser yn cael eu darganfod yn y camau cynnar am nifer o resymau, gan gynnwys y ffaith fod yr ofarïau yn ddwfn yn y pelfis ac yn anodd i'w harchwilio, a bod y symptomau yn rhai cyffredin sy'n cael eu cam-gymryd am gyflyrau eraill.
Erbyn i'r canser achosi symptomau a'i fod wedi ei ddarganfod, mae wedi ymledu y tu allan i'r ofarïau i'r pelfis (cam 2), yr abdomen (cam 3) neu tu hwnt i'r abdomen (cam 4), yn ôl Ovacome.
Mae rhai o'r symptomau mwyaf cyffredin yn cynnwys chwyddo (bloating) parhaus, anhawster bwyta a theimlo'n llawn yn gyflymach, poen yn yr abdomen a'r pelfis yn ddyddiol a newidiadau i'ch wrin neu goluddyn.
Mae angen codi mwy o ymwybyddiaeth o'r symptomau, yn ôl Sioned.
"Does ddim ffor' o sgrinio am ganser yr ofarïau. Ma’ rhywun yn ofalus iawn, a ‘dan ni’n clywed bod isio mamogram, ag edrych allan am lwmp, bod isio mynd am smear test, a ma’ pobl hefyd yn dueddol o feddwl bod y smear test yn gallu dangos canser yr ofarïau, dydy o ddim," meddai.
"Does ‘na ddim byd a dyna be’ sy’n dychryn rhywun dwi’n meddwl ydy erbyn i chi ddalld bod o genna chi, mae o wedi mynd i gam, o’dd un fi yn Gam 4B, a mae o wedi mynd i’r pen a mae o’n anodd iawn ei drin o wedyn ‘lly."
Yn y DU, mae yna raglen sgrinio ar gyfer canser y fron, canser ceg y groth a chanser y coluddyn.
Yn ôl Ovacome, byddai dull effeithiol o sgrinio i ganfod canser yr ofarïau yn y cam cynnar yn gallu arbed bywydau nifer o bobl sy'n datblygu'r canser.
Ychwanegodd Sioned: "Dwi’n meddwl os fyse merched yn mynd ac yn mynnu a gofyn am y prawf, fyse pethe yn gallu cael eu canfod dipyn cynharach."
"Ma' mor bwysig ein bod ni'n clywed am y profion mamogram a'r smear test, ond yr un mor bwysig, mae isio codi gêm dwi'n meddwl a dod â'r ymwybyddiaeth am ganser yr ofarïau i'r un lefel."
Er ei bod wedi cael diagnosis o gam 4, neges Sioned i unrhyw un mewn sefyllfa debyg fyddai i beidio anobeithio.
"Cyn i hyn ddigwydd, o’n i’n clywed am bobl efo canser Cam 4, unrhyw fath o ganser Cam 4, ag yn meddwl ‘Dyna ni, dyna ddiwedd y daith...Cam 4, fedrith nhw ddim neud dim byd llawer," meddai.
"Felly ma’r ffaith ‘mod i’n eistedd fan hyn heddiw yn teimlo mor iach ag ydw i, efo fy ngwallt yn tyfu yn ôl a wedi gorffen y driniaeth, ag amseroedd da o fy mlaen i yn beth pwysig i bobl sylweddoli i beidio anobeithio.
"Dwi yn meddwl bod o’n bwysig i wrando ar be ydi’r cam, ond peidiwch anobeithio, mae ‘na obaith, dim ots be’ ‘da chi’n gael fel diagnosis."
'Rhaid rhoi gwybod i'r meddyg teulu'
Dywedodd nyrs arbenigol oncoleg gynaecoleg ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Christine Plant, wrth Newyddion S4C: "Os oes gennych chi nifer o'r symptomau yma, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'ch meddyg teulu fod gennych chi'r symptomau hyn ac eich bod chi'n poeni fod gennych chi ganser yr ofarïau.
"Does yna ddim sgrinio ar hyn o bryd felly byddai'n rhaid i chi fynd at eich meddyg teulu yn dweud wrthyn nhw eich bod chi'n poeni am ganser yr ofarïau, ac wedyn mae modd iddyn nhw wedyn wneud profion a fyddai yn gallu cadarnhau naill ffordd. "