Newyddion S4C

Carcharu dyn am ddau achos o dreisio yng Nghwmafan

Johnathan Sutton

Mae dyn 35 oed o ganolbarth Lloegr wedi ei garcharu, ar ôl i lys ei gael yn euog o ddau achos o dreisio yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Roedd Johnathan Sutton o Walsall wedi pledio'n ddieuog i'r troseddau a ddigwyddodd fis Mehefin ac Awst 2021 yng Nghwmafan, mewn cyfeiriad lle roedd Sutton yn byw ar y pryd.  

Ar ol i'r rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ei gael yn euog o dreisio dau berson, mae e bellach wedi cael dedfryd estynedig o ddeunaw mlynedd o dan glo. 

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gary Willis-Hill: "Roedd Johnathan Sutton yn amlwg yn ddyn peryglus a oedd yn credu bod modd iddo reoli ei ddioddefwyr.

"Drwy bledio'n ddieuog i'r troseddau hyn, mae'n dangos nad yw'n edifar am yr hyn a wnaeth.

"Bydd e bellach o dan glo am gyfnod sylweddol iawn."

    

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.