Gwrthdrawiad Llanbrynmair: Trên ‘wedi llithro’ medd adroddiad cychwynnol
Roedd trên wedi llithro ar ôl i'r gyrrwr daro'r brêcs cyn gwrthdrawiad rhwng trenau yn ardal Llanbrynmair ym Mhowys y llynedd, yn ôl adroddiad cychwynnol.
Bu farw un dyn, Tudor Evans, 66 oed o Gapel Dewi, Aberystwyth yn y gwrthdrawiad ac fe gafodd 11 o bobl eraill eu hanafu, pedwar ohonynt yn ddifrifol.
Mae’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd (RAIB) wedi cyhoeddi eu hadroddiad cychwynnol i’r gwrthdrawiad ar 21 Hydref 2024.
Fe wnaeth trên 1J25, y gwasanaeth teithwyr 18:31 o Amwythig i Aberystwyth, â thrên rhif 1S71, y gwasanaeth teithwyr 19:09 o Fachynlleth i Amwythig, wrthdaro tua 19.26 y diwrnod hwnnw.
Dywedodd y RAIB bod dolen yn Nhalerddig oedd yn caniatáu i drenau basio ei gilydd.
“Roedd trên 1J25, a oedd yn teithio tua'r gorllewin, i fod i stopio yn y ddolen i ganiatáu i drên 1S71 tua'r dwyrain ei basio,” medden nhw.
“Roedd trên 1J25 yn brecio wrth iddo agosáu at fynd trwy'r ddolen.
“Er gwaethaf hyn, roedd wedi methu â stopio o fewn y ddolen fel y bwriad."
Dywedodd yr adroddiad bod gyrrwr trên 1J25 wedi brecio 730 metr cyn y man lle’r oedd y trên i fod i ddod i stop, meddai'r adroddiad.
Fe wnaeth system brecio awtomatig y trên hefyd ddechrau chwe eiliad yn ddiweddarach, pan oedd y man stopio 500 metr i ffwrdd.
Roedd dadansoddiad yr RAIB o ddata y tren yn dangos bod olwynion y tren wedi dechrau llithro eiliad ar ôl dechrau brecio yn awtomatig.
Defnyddiodd gyrrwr trên 1J25 radio y trên i ffonio'r signalwr i roi gwybod bod y trên yn llithro ac yn debygol o fynd heibio i'r man stopio.
“Yn dilyn hynny, gadawodd y trên y ddolen, tra'n dal i frecio, ac ail-ymunodd â'r llinell sengl, gan anelu tuag at drên 1S71," meddai'r RAIB.
“Teithiodd trên 1J25 tua 1,080 metr y tu hwnt i'r man lle’r oedd i fod i stopio, cyn gwrthdaro â thrên 1S71.”
Ar adeg y gwrthdrawiad, roedd trên 1J25 yn teithio tua 39 km/awr (24 mya), tra bod trên 1S71 yn teithio i'r cyfeiriad arall tua 11 km/awr (6 mya).
Roedd y ddau wasanaeth yn cael eu gweithredu gan gwmni Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru Cyfyngedig.
Ni ddaeth y naill drên na'r llall oedd ar y cledrau ond roedd difrod sylweddol i’w cerbydau.