Newyddion S4C

Bwrdd Iechyd yn cydweithio â mam bachgen naw oed a fu farw o sepsis

dylan cope.png
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan bellach yn cydweithio â mam bachgen naw oed o Gasnewydd a fu farw o sepsis, ddyddiau ar ôl cael ei ryddhau o'r ysbyty gyda'r ffliw. 
 
Ychwanegodd y Bwrdd Iechyd eu bod cydweithio'n agos hefyd â'r ymddiriedolaeth UK Sepsis Trust er mwyn sefydlu ymgyrch i hybu ymwybyddiaeth am arwyddion a symptomau sepsis ymhith eu staff a'r cyhoedd.
 

Fe gafodd Dylan Cope ei gludo i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbran ar 6 Rhagfyr 2022. 

Cafodd ganiátad i adael yr ysbyty y diwrnod canlynol ar ôl derbyn diagnosis o ffliw, ac fe gafodd bamffled gyda chyngor yn ymwneud â pheswch ac annwyd. 

Bu farw ar 14 Rhagfyr o sepsis yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. 

Wrth groesawu'r ymgyrch rhyngddi â'r Bwrdd Iechyd, dywedodd Mam Dylan, Corinne Cope bod angen i'r cyhoedd a'r Gwasanaeth Iechyd gydweithio er mwyn trechu sepsis, a hynny gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, meddai.

"Mae'r ymgyrch hon yn fan cychwyn, ac mae newidiadau cadarnhaol yn digwydd, ond yn anffodus mae'n cymryd amser i'w gweithredu, eu monitro a'u cynnal," meddai.   

Ychwanegodd Corinne Cope mai ei nod yw gweld pob bwrdd iechyd yng Nghymru ym ymrwymo i'r ymgyrch, yn ogystal â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. 

"Gyda'n gilydd, gallwn drechu sepsis," ychwanegodd.    

Daeth crwner i'r casgliad ym mis Mai 2024 bod esgeulustod wedi cyfrannu at farwolaeth Dylan Cope ar ôl methiannau gan weithwyr meddygol proffesiynol.

Mewn datganiad ddydd Mercher, dywedodd y Bwrdd Iechyd y gellid fod wedi atal marwolaeth Dylan, ac maen nhw'n derbyn casgliadau'r crwner yn llwyr.  
 
"Ry'n ni'n cymryd cyfrifoldeb llawn am y methiannau yn ei ofal," meddai'r datganiad. 
 
"Mae colli unrhyw glaf yn dorcalonnus, ond mae colli plentyn y tu hwnt i eiriau.
 
"Ni allwn amgyffred y tor calon y mae teulu Dylan yn ei brofi."
 
Newidiadau 
 
Mae'r Bwrdd Iechyd yn dweud eu bod yn benderfynol o ddysgu gwersi o'r drasiedi, a chyflwyno'r gwelliannau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'r un peth yn digwydd eto.         
 
"Mae newidiadau eisoes wedi eu gwneud, ond rydym yn cydnabod, bod rhagor i'w gyflawni." 
 
Yn rhan o'r ymgyrch honno, mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Mam Dylan, Corinne Cope.
 
"Rydym yn gwrando ar deulu Dylan, argymhellion y crwner, ac ein staff , ac rydym yn benderfynol o ddysgu gwersi o'r drasiedi hon,'' meddai'r datganaid.  
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.