Newyddion S4C

Y Spice Girls yn dychwelyd i'r llwyfan?

Spice Girls

Mae adroddiadau y bydd y grŵp pop poblogaidd o’r nawdegau, Spice Girls, yn ailffurfio i ddathlu pen-blwydd y grŵp yn 30 oed.

Y disgwyl yw y bydd Geri Halliwell, Emma Bunton, Mel B a Mel C yn cwrdd yr wythnos nesaf i orffen cynllunio eu taith fyd-eang.

Ond yn ôl adroddiadau does dim disgwyl i Victoria Beckham, 52, ymuno efo’r pedair arall ar y daith.

Ers iddyn nhw wahanu'n swyddogol mae amryw o sibrydion wedi bod y bydden nhw'n ailffurfio. Mae Geri Halliwell bellach wedi dweud bod gobaith i hyn ddigwydd.

Dywedodd wrth The Times: "Fy ngobaith yw y byddwn ni'n dod yn ôl at ein gilydd fel un. Mae'n fwy parchus dod fel un.”

“Mi fydd rhywbeth yn digwydd. Byddwn ni’n dod fel un. Rydyn ni’n caru’n gilydd. Rwy’n eu caru nhw. Mae gen i feddwl mawr ohonyn nhw, rydyn ni eisiau’r gorau i’n gilydd,” meddai.

“Roedden ni'n rhannu rhywbeth enfawr. Rydyn ni bob amser wedi credu yn ein gilydd, wedi ymddiried yn ein gilydd, sy'n brydferth.”

Daw’r hyn ar ôl i'w chyd-Spice Girl, Mel C, awgrymu y gallai'r band wneud rhywbeth arbennig y flwyddyn nesaf i nodi 30 mlynedd ers eu halbwm cyntaf, Spice.

Teithiodd y grŵp gyda’i gilydd ddiwethaf yn ôl yn 2020 fel pedwarawd, heb Victoria Beckham.

Y tro diwethaf iddyn nhw berfformio i gyd efo’i gilydd oedd yn ystod seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.