Newyddion S4C

'Mae pobl mewn perygl': Pwyllgor yn rhybuddio am argyfyngau newid hinsawdd

Llifogydd Powys (PA)

Dyw Llywodraeth San Steffan ddim yn gwneud digon i baratoi’r DU ar gyfer “argyfyngau fory” sy’n cael eu heffeithio gan newid hinsawdd.

Dyna mae ymgynghorwyr hinsawdd wedi dweud mewn adroddiad beirniadol.

Mae’r adroddiad yn dweud bod y cynnydd unai yn “rhy araf, yn segur neu yn mynd i’r cyfeiriad anghywir”.

Yn ôl y ddogfen mae 6.3 miliwn o dai yn Lloegr mewn perygl o lifogydd tra bod yna ddarogan y bydd 10,000 o bobl y flwyddyn yn marw yn gynnar o dywydd poeth erbyn canol y ganrif.

Os nad oes yna weithredu bydd 7% o leihad yng nghynnyrch economi'r DU erbyn 2050.

Mae hanner o diroedd ffermio’r DU mewn perygl o lifogydd tra bod lleoliadau fel cartrefi gofal, ysbytai ac ysgolion mewn safle bregus i effeithiau fel tywydd poeth meddai’r pwyllgor. 

Fe edrychodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar 46 ardal lle'r oedd angen gweld addasiadau wedi eu cyflawni. Dim ond tair ardal oedd yn gweld cynnydd da.

Does dim un mesur yn gwneud cynnydd da o safbwynt cyrraedd y nod mewn meysydd fel cyflenwadau bwyd ac ynni a galluogi gwytnwch mewn natur.

Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, Y Farwnes Brown: “Mae pobl yn poeni am effaith tywydd eithafol, yn pryderu am brisiau bwyd. Mae pobl yn poeni beth sydd yn mynd i ddigwydd i’w ffrindiau a’u teuluoedd bregus.

“Er hyn does 'na ddim cynnydd mewn gweithredu gan y llywodraeth newydd. Mae hynny er bod hi’n glir i fy mhwyllgor i, ac yn dod yn fwyfwy clir i’r cyhoedd bod y ffordd bresennol maen nhw yn ymwneud â'r polisi  ddim yn gweithio. Ein neges ni yw mae’r wlad mewn perygl, mae pobl mewn perygl a does dim digon yn cael ei wneud.”

Ymhlith yr argymhellion mae adeiladu ysbytai mwy gwydn, bod safonau tai newydd yn atal gorboethi a gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod beth i wneud mewn tywydd poeth eithafol. 

Mae Llywodraeth y DU yn dweud y byddan nhw yn ystyried canfyddiadau'r adroddiad yn ofalus. 

Dywedodd y llefarydd bod y llywodraeth yn cymryd camau “cadarn i baratoi ar gyfer effeithiau hinsawdd sydd yn newid. 

“Rydyn ni yn buddsoddi £2.65 biliwn i drwsio ac adeiladu amddiffynfa rhag llifogydd, amddiffyn degau ar filoedd o gartrefi a busnesau ac yn helpu cymunedau lleol i ddod yn fwy gwydn i effeithiau newid hinsawdd megis gorboethi a sychder.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.