Newyddion S4C

Plas Tan-y-Bwlch: Cais am grant i gadw’r adeilad

Plas Tan y Bwlch

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cefnogi gwneud cais am grant o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn cadw Plas Tan-y-Bwlch yn Maentwrog.

Y gobaith fydd adleoli swyddfeydd yr awdurdod o Benrhyndeudraeth i’r Plas, medden nhw.

Fe wnaeth aelodau’r awdurdod bleidleisio o blaid y cynllun i wneud cais am y grant mewn cyfarfod ddydd Mercher.

Ond fe rybuddiodd y prif weithredwr Jonathan Cawley y gallen nhw orfod gwerthu yr adeilad os nad ydyn nhw’n llwyddiannus wrth wneud cais am y grant oherwydd "pwysau ariannol" ei gadw.

Roedd y parc yn wynebu dyled ariannol o £635,000 yn y flwyddyn ariannol bresennol, meddai.

Clywodd aelodau’r awdurdod y byddai angen i'r grant fod rhwng £5m-£10m a fyddai yn "gystadleuol iawn" ac na fydden nhw'n gwybod a fydden nhw'n llwyddiannus hyd nes 2028.

“Allwn ni ddim cadw Plas heb y grant yna,” meddai Jonathan Cawley.

"Mae'r her ariannol yn rhan o hyn i gyd a dyna'r rheswm pam bod y Plas ar y farchnad yn y lle cynta'.

“Os da ni’n meddwl bod hwn ddim yn stacio fyny mae’n bwysig i ni fod yn onest.”

Roedd angen rheoli disgwyliadau y cyhoedd am ddyfodol y plas os na fyddai’r cais yn llwyddiannus, meddai.

Y cefndir

Cafodd Plas Tan y Bwlch ym Maentwrog ei roi ar y farchnad agored gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn mis Awst y llynedd am £1.2m.

Ond fe godwyd pryderon gan y gymuned leol ynghylch dyfodol yr adeilad, a sicrwydd mynediad yn y dyfodol i Lyn Mair a’r coetiroedd cyfagos.

Fe benderfynodd yr awdurdod mewn cyfarfod ym mis Tachwedd i dynnu yr adeilad oddi ar y farchnad.

Pleidleisiodd yr awdurdod hefyd i fonitro sefyllfa ariannol yr Awdurdod yn agos drwy gydol y broses.

Roedd hynny’n cynnwys cyflwyno mesurau i leihau'r diffyg presennol yn y gyllideb yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.