Cyhoeddi 'newid mawr' i ofal iechyd meddwl yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod “newid mawr” ar y gweill i’r system iechyd meddwl wrth iddynt gyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer y ddegawd nesaf.
Fel rhan o Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol, fe allai pobl sy’n dioddef gyda’u hiechyd meddwl droi at wasanaethau fydd yn eu helpu o fewn yr un diwrnod, meddai’r llywodraeth.
Bydd gwasanaethau mynediad agored yn “rhan allweddol” o drawsnewid y system, gan sicrhau bod pobl yn cael cymorth yr un diwrnod heb fod angen atgyfeiriad.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydd mwy o ffocws ar atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu, yn ogystal ag ymyrryd yn gynnar cyn i broblemau waethygu.
Dywedodd y llywodraeth bod y broses o drawsnewid y system eisoes ar waith “wrth i wasanaeth 111 pwyso 2 ar gyfer gofal iechyd meddwl brys gael ei gyflwyno drwy Gymru.”
'Ffynnu'
Yn ôl y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, mae “iechyd meddwl da yn dibynnu ar lawer mwy na gofal iechyd yn unig.”
Dywedodd y byddant yn gweithredu er mwyn mynd i’r afael “â'r holl ffactorau sy'n effeithio ar lesiant – o dai a chyflogaeth i daclo unigrwydd ac adeiladu cymunedau cryfach."
Y gobaith ydy mynd i’r afael â rhai o’r trafferthion y mae pobl yn eu hwynebu, fel unigrwydd.
Mae Living Streets Cymru yn elusen sydd yn trefnu teithiau cerdded wythnosol yn y gobaith o alluogi pobl i ddod at ei gilydd wrth iddynt ymarfer corff.
Dywedodd Ruth Billingham o Living Streets Cymru: "Mae cerdded yn cynnig manteision enfawr... Mae ein grwpiau lleol yn dod â phobl at ei gilydd i drefnu teithiau cerdded, creu cysylltiadau newydd ac ymgyrchu dros newidiadau i'w hamgylchedd cerdded lleol.
“Maen nhw'n dweud wrthyn ni bod cerdded a siarad yn eu helpu i ddelio â theimladau o unigrwydd, gorbryder a thristwch.
"Trwy ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar, gan sicrhau hefyd bod cymorth ar gael yn rhwydd pan fo angen, ry’n ni’n gweithio i greu gwlad lle gall pawb ffynnu," ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.