
'Colled enfawr': Mam bachgen â pharlys yr ymennydd yn rhybuddio am effaith cau canolfan farchogaeth
Mae mam bachgen â pharlys yr ymennydd wedi dweud y byddai cau canolfan farchogaeth arbenigol yn Sir y Fflint yn "golled enfawr".
Cafodd mab Sarah Ellis, Efan, sy'n wyth oed, ddiagnosis o barlys yr ymennydd (cerebral palsy) yn 10 mis oed yn 2017.
Gall y cyflwr effeithio ar osgo, cydbwysedd a gallu person i symud, cyfathrebu a dysgu.
Ers yn flwydd oed, mae Efan wedi bod yn mynd i Ganolfan Farchogaeth Arbennig Clwyd yn Llanfynydd ger Wrecsam.
Mae'r ganolfan yn cynnig hipotherapi, sef math o ffisiotherapi sy'n defnyddio marchogaeth fel ffordd o wella cryfder a chydbwysedd unigolyn.
Ond mae dyfodol y ganolfan bellach yn y fantol yn sgil bwlch ariannol o bron i £400,000.
Elusen annibynnol yw'r ganolfan sydd wedi bod yn gweithredu ers dros 40 mlynedd.
'Amhrisiadwy'
Dywedodd Ms Ellis, sy'n byw yn Nhreffynnon, bod y ganolfan wedi bod yn "amhrisiadwy" i'w mab dros y blynyddoedd.
"Pan oedd Efan yn fabi, doedd o ddim yn gallu codi ei ben oddi ar ei ysgwyddau," meddai'r fam i dri wrth Newyddion S4C.
"Ond heb os nac oni bai, mae'r ganolfan wedi gwneud gwahaniaeth mawr iddo'n gorfforol.
"Oherwydd ei gyflwr mae'n bwysig ei fod yn symud ac yn cadw ei asgwrn cefn mor syth â phosib."
Fe aeth ymlaen i ddweud bod y ganolfan hefyd wedi helpu ei mab yn emosiynol.
"Mae wyneb Efan yn goleuo i fyny pan da ni'n cyrraedd y ganolfan," meddai.
"Unwaith 'da ni'n troi i mewn i'r maes parcio, mae o'n dechrau clapio ei ddwylo.
"Mae'n adnabod y bobl, mae'n ymateb i'w hwynebau, mae'n ymateb i'r ceffylau."

Ychwanegodd: "Mae'n fwy na jyst ffisio, mae 'na'r ochr gymdeithasol hefyd.
"Mae'n rhywbeth mae'n cael mwynhau ei wneud, fel mae rhai plant eraill yn chwarae pêl-droed a thenis."
Yn ôl Ms Ellis, nid yw'n hawdd dod o hyd i hipotherapi, gyda'r ganolfan agosaf dros awr i ffwrdd yn Lerpwl.
"Mae pobl yn meddwl bod o jyst yn mynd yno ac yn eistedd ar geffyl, ac y gallwch gael hynny'n unrhyw le," meddai.
"Ond dyda chi ddim, achos mae'r ceffylau yn cael eu dewis yn ofalus.
"Mae'n rhaid iddyn nhw fod yn bombproof oherwydd y math o blant maen nhw'n eu cynorthwyo.
"Byddai'n golled enfawr."
Beth yw'r sefyllfa?
Fe wnaeth y ganolfan farchogaeth lansio ymgyrch i godi arian brys ddydd Iau diwethaf.
Dywedodd y trefnwyr mai'r bwriad yw codi £365,000 o fewn wythnos, neu bydd y ganolfan yn cau ar 1 Mai.
Hyd yma maen nhw wedi llwyddo i godi 20% o'r targed, sef £70,000, drwy'r wefan Crowdfunder.
Dywedodd Sophia Greenwell, rheolwr y ganolfan, ei bod yn "benderfynol" o gadw'r ganolfan i fynd.
"Rydym yn benderfynol o wneud yr hyn a allwn i wneud i bethau weithio," meddai.
"Ond yn anffodus, dim ond gyda chefnogaeth pawb allan yna ydyn ni'n gallu gwneud hynny.
"Mi fyddwn ni yn cyflawni, ac rydym yn addo y byddwn yn gwneud ein gorau glas - ond ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain."