Grantiau o hyd at £20,000 i fusnesau i warchod twristiaid rhag y glaw
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd hyd at £20,000 ar gael i fusnesau allu croesawu ymwelwyr i Gymru beth bynnag fo’r tywydd.
Bydd cronfa newydd yn cael ei lansio i wella cyfleusterau busnesau i warchod ymwelwyr rhag y glaw.
Bydd y gronfa yn darparu grantiau rhwng £5,000 a £20,000 i fusnesau sy’n gymwys.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae twristiaid yn rhoi £3.8b i economi’r wlad bob blwyddyn, oherwydd y gallent fod “yn sicr o groeso Cymreig gwych boed law neu hindda.”
Ond, mae data diweddar gan Croeso Cymru yn dangos fod tywydd gwael yn cael ei nodi fel y rheswm dros lai o ymwelwyr yn haf 2024 gan 55% o fusnesau.
Mae’r data hefyd yn dangos fod y tywydd gwael yn cael mwy o effaith ar fusnesau Cymru na phwysau costau byw.
Gobaith y Llywodraeth yw y bydd y grantiau yn galluogi busnesau i wella eu cyfleusterau er mwyn gallu croesawu ymwelwyr i Gymru ym mhob tywydd.
Bydd y grantiau yn gallu cael eu gwario ar amrywiaeth o fesurau fel canopïau, draenio cynaliadwy, ardaloedd eistedd wedi'u gorchuddio, llochesi i ymwelwyr neu lwybrau gwell ac arwynebau meysydd parcio.
Tywydd yn ‘anodd ei ragweld’
Wrth gyhoeddi’r gronfa, dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet sy’n gyfrifol am dwristiaeth, fod gan Gymru “lawer iawn i’w gynnig” yn y maes.
Ond dywedodd bod y tywydd yn mynd yn fwy a mwy anodd ei ragweld, ac mai dyna’r ffactor mwyaf sy’n effeithio ar nifer yr ymwelwyr.
“Gall tywydd gwael atal ymwelwyr rhag mwynhau, effeithio ar y profiad ac mae ganddo'r posibilrwydd o atal ymweliadau yn y lle cyntaf,” meddai.
Ychwanegodd Rebecca Evans eu bod “bob amser yn helpu i adeiladu ar a gwella'r cynnig yng Nghymru.”
"Bydd y grantiau hyn yn helpu ein hatyniadau twristiaeth i ddod yn fwy gwydn, ymestyn eu tymor a gwella profiad ymwelwyr, gan gefnogi'r busnesau ac economi ehangach Cymru," meddai.