Heddwas o Fôn yn ddieuog o achosi niwed corfforol difrifol i ddyn ifanc ym Mangor
Mae heddwas o Sir Fôn wedi ei gael yn ddieuog o achosi niwed corfforol difrifol i fachgen 17 oed y tu allan i glwb nos ym Mangor yn 2023.
Bu'n rhaid i Harley Murphey, oedd yn 17 oed ar y pryd, gael llawdriniaeth i dynnu hanner caill ar ôl iddo gael ei arestio gan y Cwnstabl Ellis Thomas, 25 oed, o'r Gaerwen, Ynys Môn.
Roedd Mr Thomas wedi gwadu cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn Llys y Goron yr Wyddgrug.
Fe'i cafwyd yn ddieuog gan reithgor yn y llys fore dydd Mawrth.
Roedd y swyddog wedi gwadu ei fod wedi colli ei dymer yn ystod y digwyddiad.
Fe wnaeth anghytuno â bargyfreithiwr yr erlyniad Elen Owen oedd wedi dweud ei fod wedi cicio Harley Murphy “yn ei dymer”.
Cafodd yr heddwas ei ddisgrifio gan dyst ar ran yr amddiffyniad fel “cawr addfwyn” ac fe ddisgrifiodd mewn tystiolaeth i’r rheithgor sut yr oedd wedi gwirfoddoli fel cwnstabl gwirfoddol cyn dechrau fel heddwas llawn amser ym mis Ebrill 2020.
Gwadodd iddo ymosod ar Mr Murphy ger safle clwb nos Cube ym Mangor ym mis Ionawr 2023.
Wrth gael ei holi gan fargyfreithiwr yr amddiffyniad, David Temkin KC, dywedodd PC Thomas iddo gael ei roi ar ddyletswyddau cyfyngedig nad oeddent yn ymwneud â’r cyhoedd.
Ond haerodd nad oedd yn droseddol gyfrifol am yr anaf i’r bachgen na’i fod wedi ei achosi ar ddamwain.
Dywedodd Cyfarwyddwr Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, Derrick Campbell, yn dilyn y ddedfryd ei bod yn bwysig bod ymchwiliad i'r digwyddiad wedi cael ei gynnal.
"Ar ôl clywed y dystiolaeth, mae'r llys bellach wedi gwneud ei benderfyniad ac rydym yn parchu'r dyfarniad," meddai.
"Roedd hwn yn gyhuddiad difrifol, yn erbyn plentyn, felly roedd yn bwysig bod y digwyddiad yn cael ei ymchwilio'n annibynnol ac yn drylwyr."
Ychwanegodd y byddai Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn cydweithio gyda'r heddlu er mwyn trafod y camau nesaf ac unrhyw gamau disgyblu posibl yn erbyn y Cwnstabl Ellis Thomas.