Newyddion S4C

Saith person yn yr ysbyty ar ôl tân yng Nghaerdydd

Tân Caerau

Mae saith person wedi cael eu cludo i'r ysbyty am driniaeth ar ôl tân yng Nghaerdydd fore Mawrth.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw wedi ymateb i dân ar Ffordd Treseder yn ardal Caerau.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y De eu galw i'r digwyddiad am 03:45.

Roedd criwiau o orsafoedd Trelái, Caerdydd Canolog, Yr Eglwys Newydd, Y Barri a Phenarth yn bresennol.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod un person wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr a chwech arall mewn ambiwlans.

Dywedodd yr heddlu fore Mawrth: "Mae presenoldeb y gwasanaethau brys yn parhau yn ardal."

Maen nhw'n annog pobl i osgoi'r ardal ac yn diolch i bobl am eu hamynedd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.