Newyddion S4C

'Poen meddwl': Y Cymry sydd wedi'u dal yn nhrafferthion trydan Sbaen

'Poen meddwl': Y Cymry sydd wedi'u dal yn nhrafferthion trydan Sbaen

Mae'r cyflenwad trydan wedi dechrau dychwelyd yn Sbaen ac ym mhrifddinas Portiwgal.

Yn ôl y cwmni sy'n gweithredu grid cenedlaethol Sbaen mae 87% o'r pŵer wedi dychwelyd erbyn hyn.

Ond mae argyfwng cenedlaethol dal mewn grym wedi i'r wlad fod am oriau heb gyflenwad pŵer.

Mae Prif Weinidog Sbaen, Pedro Sánchez wedi dweud nad yw hi'n glir beth sydd wedi achosi'r trafferthion.

Roedd sawl un o Gymru wedi'u dal yn y trafferthion.

Mae Gwenno Fflur Blythin yn gweithio fel athrawes yn ninas Marbella yn ne Sbaen.

Dywedodd nos Fawrth bod y trafferthion trydan wedi amharu'n sylweddol ar wasanaethau, gan achosi "poen meddwl mawr".

"Ers tua 12.00 nath y trydan ddiffodd, gan gynnwys rhyngrwyd, goleuadau traffig stryd, modd i gysylltu efo'r gwasanaeth brys," meddai wrth Newyddion S4C.

"Unrhyw drydan, boed yn goginio neu'n unrhyw beth o gwbl - cysylltu efo teulu fwy 'na dim byd yn anodd iawn i ymdopi.

"Y sefyllfa yn debyg iawn i Covid ond gwaeth, gan bod siopau dal i agor ond trydan ddim yn gweithio a goleuadau ddim yn gweithio.

"Methu cysylltu efo'r gwasanaeth brys, methu cysylltu efo'r heddlu na dim byd os oes 'na wbath yn digwydd - poen meddwl mawr."

'Chaotic llwyr'

Cafodd Gwion Aled o Llandegfan ei ddal yn y trafferthion yn Málaga yn ne Sbaen wrth iddo geisio cyrraedd y maes awyr.

"Oedd gyna ni gar wedi heirio ag o'n i angen mynd â hwnna nôl i Malaga... pan doedd y goleuadau traffig ddim yn gweithio, o'n i'n gwbo bo' 'na broblem fawr, bo 'na wbath o'i le," meddai.

"Drwy rhyw wyrth fe gafon ni'r car yn ôl i'r lle heirio ag oedda ni wedyn angen ffeindio ffor' i'r maes awyr.

"Ond sylwi'n syth bo' ciwio am dacsi yn mynd i fod yn amhosib - oedd 'na gannoedd o bobl yn ciwio am dacsi, ac wrth gwrs mond yn gallu talu efo arian parod achos oedd neb yn gallu talu efo'u ffôn, efo'u cerdyn.

"Doedd Uber ddim yn bosib achos bod yr electroneg i lawr ag wedyn oedd trenau ddim yn rhedeg, felly penderfynu ciwio am fys ond fuon ni'n ciwio am tua dwy awr am fys a doedd 'na'm sein am fys o gwbl.

"Oedd 'na gannoedd o bobl wedi ciwio am fys, felly sylweddoli bod ein opsiyna ni ddim yn grêt."

Yn y pen draw, dywedodd Gwion ei fod wedi llwyddo i gael tacsi i'r maes awyr.

"Roedd lot yn y maes awyr wedi methu eu ffleit adre ond yn lwcus i ni 'da ni'n hedfan - ar amser hefyd, felly 'da ni 'di bod yn ffodus iawn.

"Ond fel arall ma'i 'di bod yn chaotic llwyr yn Malaga 'ma."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.