Newyddion S4C

'Obsesed efo celf drwy mywyd': Arddangos gwaith arlunydd mewn oriel yn Llŷn

Iwan Lloyd Roberts

Mae arlunydd o Ben Llŷn yn dweud bod celf wedi bod yn rhan o'i fywyd ers iddo fod yn bump oed, pan ddechreuodd ddylunio setiau Mega Blocks.

"Dwi ‘di bod yn hollol obsesd efo celf drwy ‘mywyd i gyd” meddai Iwan Lloyd Roberts. 

Cafodd Iwan wahoddiad gyda'i deulu i fynd i weld y ffatri yn Quebec yng Nghanada ar ôl i'w fam anfon e-byst at y cwmni yn dangos gwaith ei mab.

“O’r foment yna ymlaen, oni’n gwbod, ok, dwi’n rili licio celf, ac oni’n gweld bod ‘na bobl eraill yn licio ‘nghelf i ‘fyd!" meddai Iwan sy'n 24 oed.

Roedd mynd i Ganada a chyfarfod prif weithredwr y cwmni wedi bod yn “ddigwyddiad pwysig iawn” iddo wrth edrych yn ôl meddai.

Mae ei waith yn cael ei arddangos ar hyn o bryd yn Oriel Plas Glyn y Weddw hyd at 5 Mai.

Image
Iwan Lloyd Roberts
Senedd o Dylluanod. Llun: Iwan Lloyd Roberts.

Mae Iwan wedi troi ei law at amryw o gyfryngau wrth ei wneud ei gelf.

“Sketchio oni’n ei wneud drwy ‘mywyd i gyd” meddai, “ond yn uni neshi ddechrau g’neud oil paintings”.

Ers hynny, mae wedi ymddiddori mewn hanes canoloesol a hanes cylchol, ac mae’r cymeriadau a’r symbolau yn amlwg iawn yn ei waith.

Image
Iwan Lloyd Roberts

“Dwi’n obsesd efo’r cyfnod medieval, a ma’ gen i lot o lyfrau am symbolism a phethau fel ‘na” meddai.

Ychwanegodd fod ganddo ddiddordeb mawr mewn etymoleg, yr astudiaeth o hanes gair neu ymadrodd. Mae ganddo hen lyfr sy’n rhoi cefndir i eiriau’r geiriadur, ac yn egluro unrhyw straeon chwedlonol meddai. 

Dywedodd bod rhan o’r diddordeb hwnnw’n dangos yn ei waith.

Yn ôl Iwan, roedd y bobl ganol oesol yn credu fod gan bob anifail ryw fath o symbolaeth grefyddol, gan gynnwys fod y sbotiau ar lewpardiaid yn cynrychioli pechodau dynol.

Felly, os fydda Iwan eisiau i’w gynulleidfa adnabod drygioni mewn un o’i gymeriadau, yna mi fyddai’n ei roi mewn gwisg yn llawn sbotiau.

Dewis arall fyddai eu cysylltu ag anifail nosol fel tylluan, gan mai’r gred adeg hynny oedd bod yr anifeiliaid hynny yn ceisio “cuddio o olau Duw”.

“Dwi wrth fy modd efo symbolaeth fel ‘na” meddai, “mae o’n g’neud bob painting yn fwy rewarding i drio pigo fo i fewn i ddarnau gwahanol.”

Image
Iwan Lloyd Roberts

Mae Iwan wedi ei fagu ym Mhwllheli. Mae cael arddangos ei waith ym Mhlas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, ychydig filltiroedd i lawr y lôn felly wedi bod yn brofiad “grêt” iddo.

Dywedodd ei fod wedi cael ambell i drafodaeth am gael arddangos ei waith y tu allan i Gymru, mewn dinasoedd fel Amsterdam a Llundain. Er hynny mae'n ddigon bodlon aros o fewn ei filltir sgwâr.

“’Sw ni wrth fy modd yn aros yn fa’ma a dangos y gwaith i bobl o gwmpas ffordd hyn” meddai.

“Mae fy nghelf i i’r bobl yn yr ardal yma” meddai, “a dwi efo nhw ar fy meddwl i pan dwi’n ei ‘neud o.”

Awgrymodd efallai na fysa pobl y tu hwnt i’w ardal o a thu hwnt i Gymru yn gallu gwerthfawrogi ei waith yn wirioneddol gan fod y Cymry yn unigryw.

“Mae ‘na rywbeth yn ein culture ni, mae o’n rhywbeth fysa ond pobl fel ni fysa’n ddalld… dwi’n meddwl ella y bysa ‘na rwbath yn slightly lost in translation os fysa fo’n mynd i rhywle arall.”

Image
Iwan Lloyd Roberts

Mae 55 o baentiadau Iwan y cael eu harddangos yn yr oriel yn Llanbedrog.

Eglurodd fod y casgliad cyflawn wedi cymryd “cannoedd ar gannoedd” o oriau iddo eu creu, sy’n cynnwys un llun metr-wrth-fetr o’r enw ‘Senedd o Dylluanod’.

“Oddo’n rili anodd dod i fyny efo enw ar gyfer y paintings” meddai.

“Dwi’n meddwl bodo’n purposefully weddol anodd i ddalld - odd rhaid i fi ddod i fyny efo rwbath reit vague i ddod a fo at ei gilydd.”

Dydy Iwan ddim yn cynllunio ei waith o flaen llaw o gwbl.  “Jympio’n syth i mewn i’r painting a trystio’r broses” y mae’n ei wneud.

 

Image
Iwan Lloyd Roberts

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.