Arlywydd Rwsia yn cyhoeddi tridiau o gadoediad yn Wcráin
Mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin wedi cyhoeddi y bydd cadoediad dros dro yn eu rhyfel ag Wcráin.
Yn ôl y Kremlin, bydd y saib yn yr ymladd yn dechrau ar fore 8 Mai, ac yn para tan 11 Mai.
Mae hynny'n cydfynd â'r dathliadau i nodi diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Mewn datganiad, mae'r Kremlin yn nodi bod yr Arlywydd Putin wedi cyhoeddi'r cadoediad yn "seiliedig ar ystyriaeth ddyngarol."
Dyw Wcráin ddim wedi ymateb yn swyddogol.
Mae'r datganiad gan Rwsia yn nodi y dylai Wcráin weithredu yn yr un modd.
Cyhoeddodd y Kremlin gadoediad tebyg dros gyfnod y Pasg.
Er bod llai o ymladd yn gyffredinol, fe wnaeth y ddwy wlad gyhuddo ei gilydd o dorri amodau'r cytundeb, bryd hynny.
Ymosododd Rwsia ar Wcráin am y tro cyntaf ar 24 Chwefror 2022, ac mae'r Rwsiaid yn rheoli rhyw 20% o dir Wcráin.
Y gred yw fod cannoedd ar filoedd o bobl, y mwyafrif yn filwyr, wedi marw yn y rhyfel ers 2022.