Newyddion S4C

Ymosodiad Ysgol Dyffryn Aman: Dedfryd o 15 mlynedd i ferch 14 oed

Ymosodiad Ysgol Dyffryn Aman: Dedfryd o 15 mlynedd i ferch 14 oed

Mae merch 14 oed wedi cael ei dedfrydu i 15 o flynyddoedd dan glo ar ôl ceisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman y llynedd.

Cafodd y ferch, nad oes modd cyhoeddi ei henw oherwydd ei hoedran, ei dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe brynhawn Llun.

Dywedodd yr Ustus Paul Thomas ei fod wedi cymryd i ystyriaeth ei bod hi eisoes wedi treulio 367 diwrnod yn y ddalfa. Fe allai gael ei rhyddhau ar ôl saith mlynedd a hanner, meddai.

Roedd hi'n yn eistedd yn y llys ond bu'n rhaid iddi fynd i'r doc wrth gael ei dedfrydu.

Roedd y ferch, a oedd yn 13 adeg yr ymosodiad, eisoes wedi cyfaddef i drywanu tri o bobl ar 24 Ebrill 2024 ond wedi gwadu ymgeisio i'w lladd.

Ond fe'i cafwyd hi'n euog gan reithgor o dri chyfrif o geisio llofruddio ar ddiwedd achos llys ym mis Chwefror.

Roedd hi wedi gwadu ceisio llofruddio dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl yn yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill y llynedd.

Cafodd y ddwy athrawes a’r disgybl eu trin yn yr ysbyty ar ôl cael eu trywanu gan y ferch.

Clywodd y rheithgor ei bod wedi trywanu'r athrawes gyntaf dro ar ôl tro gan ddweud, "Rwy'n mynd i'ch f*****g lladd chi." Cafodd yr athrawes anafiadau i'w dwy fraich.

Aeth ail athrawes i ymyrryd a cheisio dal y ferch yn ôl a chafodd hithau, hefyd, ei thrywanu gan gael anafiadau i'w gwddf, ei chefn, ei choesau a'i breichiau.

Ceisiodd aelodau eraill o'r staff addysgu dawelu'r ferch ifanc, oedd yn parhau i ddweud, "Rwy'n mynd i'w lladd hi."  

Yna fe ymosododd y ferch ar ddisgybl 14 mlwydd oed, gan achosi anaf i fôn ei braich, cyn i staff lwyddo ei dal yn ôl.

Wrth ddedfrydu'r ferch i 15 mlynedd o dan glo dywedodd yr Ustus Paul Thomas nad oedd yn credu ei bod hi'n "wirioneddol sori" am yr hyn roedd hi wedi ei wneud.

“Roedd yr hyn roeddet ti wedi gwneud bron i flwyddyn yn ôl i’r diwrnod wedi achosi niwed i nifer o bobl ac wedi effeithio ar fywydau llawer, gan gynnwys dy fywyd di," meddai.

“Y ffaith syml yw dy fod di wedi ceisio lladd tri pherson.

“Roedd y digwyddiad o flaen cymaint o ddisgyblion eraill, amser egwyl pan oedd llawer o gwmpas ac yn fy marn i, roeddet ti eisiau i dy gyd-ddisgyblion weld beth roeddet ti am ei wneud.

“Dwi wedi bod yn dy wylio’n ofalus yn ystod yr achos… a dydw i ddim yn meddwl dy fod ti’n wirioneddol sori am beth wyt ti wedi gwneud.

“Dwyt ti heb ddangos emosiwn o gwbl.”

Clywoedd y llys bod y ferch hefyd wedi bygwth pobl eraill tra ei bod hi wedi cael ei chadw yn y ddalfa.

'Bwriad'

Fe wnaeth y ferch ddweud wrth Lys y Goron Abertawe yn ystod yr achos ei bod yn ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd ac nad oedd hi'n cofio llawer o'r digwyddiad.

Dywedodd yn yr achos ei fod yn “anodd cofio” beth ddigwydd a’i bod yn “sori”.

Clywodd y rheithgor bod yr heddlu wedi darganfod darluniau yn ei bag oedd yn cyfeirio at 'Mrs Frogface Elias' ac enw'r disgybl wnaeth hi drywanu, gyda'r geiriau "boddi", "marwolaeth" a "llosgi".

Dywedodd Michael Cray o Wasanaeth Erlyn y Goron ar y pryd: "Dangosodd y dystiolaeth a gyflwynwyd gan y CPS fwriad y diffynnydd pan chwifiodd a defnyddio'r arf yn yr ysgol.

"Diolch i'r drefn na chyflawnwyd y bwriad hwnnw. Clywn yn rhy aml am ddigwyddiadau yn ymwneud â chyllyll yn arwain at dristwch colli bywyd."

'Bod trwy uffern'

Roedd Fiona Elias a Liz Hopkin wedi darllen datganiad i’r llys cyn y dedfrydu.

Dywedodd Fiona Elias bod y creithiau o’r ymosodiad y llynedd yn ei hatgoffa yn barhaol ei bod hi bron â cholli ei bywyd.

“Byddai’r diwrnod hwnnw yn newid fy mywyd am byth. Mae’r ddelwedd o weld y gyllell yn byw yn fy meddwl,” meddai.

“Pan dwi’n mynd â fy nghi am dro, cwympo i gysgu ac ar ddihun yn y nos, mae’n ddelwedd dwi’n gweld trosodd a throsodd."

Ychwanegodd: “Yr unig beth oeddwn i’n gallu meddwl oedd ‘dyma’r foment, mae fy amser wedi dod.’

“Mae’r creithiau ar fy mraich yn fy atgoffa o’r poen roeddwn i wedi dioddef. Roedd hi wedi ceisio fy lladd i. 

“Dwi’n mynd i’r gwaith, wynebu’r byd a pharhau. Mae pobl yn meddwl fy mod i’n well, ond dydyn nhw ddim yn gwybod y pethau anodd dwi’n wynebu.

“Ond dwi’n parhau i fynd oherwydd dwi angen parhau dim ots pa mor anodd mae pethau."

Wrth gyfeirio at y ferch y uniongyrchol, dywedodd Fiona Elias: “Ar 24 Ebrill y llynedd, roedd dy fwriad yn glir, roeddet ti wedi ceisio fy lladd i.

“Er nad oeddet ti’n llwyddiannus, mae’r ysgol, fi a fy nheulu wedi bod trwy uffern.

“Bydd y digwyddiad yn parhau yn ein meddyliau. Bydd y disgyblion yn cofio hwn a bydd hynny ddim yn newid.

“Er bod dy enw a dy wyneb di yn aros yn gudd, ni fydd fy enw i yn cael ei anghofio, roeddet ti wedi ceisio fy lladd i yn fy ngwaith.

“Er gwaethaf yr hyn rwyt ti wedi gwneud, roeddet ti’n 13 oed. Plentyn.

“Ond yn ystod y ddwy achos roeddwn i wedi gweld ochr arall ohonot.

“Efallai y byddwn i’n cyfarfod gyda thi yn y dyfodol, ond dwi angen gwybod dy fod ti wedi newid a dysgu a thyfu o’r digwyddiad hwn.

“Dwi’n gobeithio byddet ti’n darganfod dy ffordd ymlaen mewn bywyd."

Image
Liz Hopkin a Fiona Elias
Fiona Elias a Liz Hopkin

'Pryderus ac ofnus'

Wrth ddarllen ei datganiad i’r llys, dywedodd Liz Hopkin nad oedd hi’n gallu dychwelyd i ddysgu.

“Dwi’n cofio’r moment roeddet ti wedi ymosod arnaf yn hollol glir," meddai.

“Roeddwn i’n brwydro am fy mywyd mewn lle y dyliwn i wedi teimlo’n ddiogel, yn helpu pobl ifanc fel ti.

“Er mai’r ymosodiad oedd y profiad gwaethaf o fy mywyd, roeddwn i’n falch mai fi oedd yna y diwrnod hwnna a nid aelod o staff mwy bregus."

Ychwanegodd: “Rwyt ti wedi cael dy gyhuddo o un o’r troseddau gwaethaf - ond dwyt ti ddim yn llofrudd, doeddwn i ddim yn gadael i ti gwblhau dy gynllun.

“Mae meddwl am ddychwelyd i’r gyrfa roeddwn i’n caru yn fy wneud i’n bryderus ac ofnus.

“Dwi eisiau i ti wybod bod ti wedi bod gyda fi pob dydd ers 24 Ebrill y llynedd, rywt ti wedi llenwi fy meddyliau bob dydd ers hynny.

“Mae hwn wedi fy newid mewn ffyrdd doeddwn i ddim eisiau a bydd hynny’n aros gyda fi am weddill fy mywyd."

'Popeth yn blurred'

Mae cyn-bennaeth cynorthwyol Ysgol Dyffryn Aman, Darrel Campbell yn dweud ei fod yn colli cwsg wedi'r ymosodiad ar ddwy athrawes a disgybl. 

“Rwy’ wedi cael nosweithau ddi-gwsg,” meddai wrth raglen Newyddion S4C.

“Rwy’ wedi ymdopi, a mae’n od o’n i jyst yn ffocysu ar y ferch, o’dd popeth arall yn blurred.

“O’dd hi ddim yn siarad, o’dd hi jyst yn syllu syth ymlaen, wedyn sgrechiodd hi mas fod hi’n mynd i lladd y ferch o’dd hi’n edrych ato, a ddilynais y tu ôl iddi.

“A dyna pryd welais i’r gyllell.

“Wrth bod hi yn trywanu’r ferch fe ddaliais i y llaw gyda’r gyllell yn ei llaw a dodes i’r fraich arall rownd ei gwddf a tynnu ‘ddi nol.

“Fi’n jyst falch o’n i ‘na ar y pryd a fe allais i neud rhywbeth i helpu’r sefyllfa.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.