Newyddion S4C

Pen-y-bont ar Ogwr: Cyhuddo dyn o lofruddio menyw

Tracey Davies

Mae dyn wedi ei gyhuddo o lofruddio menyw 48 oed yng Nghefn Cribwr, Pen-y-bont ar Ogwr, yn gynharach ym mis Ebrill.

Fe gafodd swyddogion eu galw ychydig ar ôl 9.15pm nos Wener, Ebrill 18, i eiddo ar Deras Bryn. 

Ar ôl cyrraedd, fe wnaeth swyddogion ddarganfod corff Tracey Davies.

Cafodd Michael Davies, 56 oed, o Gefn Cribwr, ei arestio yn y fan a'r lle ar amheuaeth o lofruddio Tracey. 

Fe gafodd ei gyhuddo o’r drosedd ddydd Sul, ac fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun am 10am.

Mae'r perthnasau agosaf wedi cael gwybod.

Dywedodd yr Arolygydd Ditectif Claire Lamerton, o'r Tîm Ymchwilio i'r Troseddau Mwyaf ei fod wedi bod yn “ddigwyddiad hynod ofidus i'r gymuned yng Nghefn Cribwr”. 

“Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu a ffrindiau Tracey,” meddai.

“Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.