Lerpwl yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr
Mae Lerpwl wedi eu coroni yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr.
Fe enillodd tîm Arne Slot o 5-1 yn erbyn Tottenham Hotspur yn Anfield brynhawn Sul.
Gêm gyfartal yn unig oedd ei hangen ar Lerpwl er mwyn ennill y gynghrair.
Dyma'r 20fed tro i Lerpwl gael eu coroni yn bencampwyr Lloegr.
Fe enillodd y tîm y gynghrair ddiwethaf yn nhymor 2019-20, a hynny am y tro cyntaf ers 30 mlynedd.
Mae gan Lerpwl 82 pwynt bellach, 15 pwynt yn fwy nag Arsenal yn yr ail safle, gyda phedair gêm i fynd tan ddiwedd y tymor.
Mae Arne Slot wedi ennill y gynghrair yn ei dymor cyntaf fel rheolwr y clwb, wedi iddo olynu Jurgen Klopp.