Newyddion S4C

Goroeswyr cam-drin domestig yng ngogledd Cymru 'i gael eu hamddiffyn yn well'

Cam-drin domestig

Fe fydd goroeswyr cam-drin domestig ar draws gogledd Cymru yn cael eu hamddiffyn yn well yn sgil ehangu Gorchymynion Diogelu Rhag Cam-drin Domestig yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder. 

O ddydd Llun, gall ddioddefwyr– yn ogystal â’u ffrindiau, teuluoedd neu weithwyr cymorth – wneud cais am Orchymynion Diogelu Rhag Cam-drin Domestig yn y llys teulu yng Nghaernarfon, Prestatyn neu Wrecsam. 

Gall yr heddlu hefyd wneud cais ar eu rhan yn y llys ynadon am amddiffyniad rhag y rhai sy'n cam-drin. 

Dywedodd Llywodraeth y DU fod hyn yn ailadrodd ei “hymrwymiad i haneru trais yn erbyn menywod a merched mewn degawd fel rhan o’r Cynllun ar gyfer Newid”.

Ychwanegodd bod y gorchmynion “yn adeiladu ar bwerau presennol yr heddlu, gan ddarparu amddiffyniad cryfach i ddioddefwyr gan gynnwys gorfodi troseddwyr i gadw at barthau gwahardd llym gan wisgo tagiau GPS a mynychu ymyriadau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl”. 

Yn ôl y Llywodraeth, mae’r gorchmynion hyn yn cwmpasu pob math o gam-drin domestig – gan gynnwys ymddygiad corfforol, sy’n rheoli neu orfodi, cam-drin economaidd a stelcian – a gall pob llys eu cyhoeddi. 

Ni fydd uchafswm hyd ar gyfer y gorchmynion hyn, o gymharu â'r cynnig presennol o orchymyn diogelu 28 diwrnod. 

Cynigion symlach

Yn ôl ffigyrau’r Llywodraeth am y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024, fe roddodd Heddlu Gogledd Cymru 462 o Hysbysiadau Diogelu rhag trais yn y cartref. 

Fe wnaeth y llu hefyd dros 350 o geisiadau o dan Gyfraith Clare i helpu i amddiffyn dioddefwyr cam-drin domestig. 

Ychwanegodd y Llywodraeth: “Mae'r ffigyrau hyn yn dangos pam y bydd cynigion mwy hyblyg, symlach fel Gorchmynion Amddiffyn Cam-drin Domestig yn helpu dioddefwyr ymhellach.”

Mae cyhoeddiad am ehangu’r gorchmynion ar draws gogledd Cymru yn dilyn lansiad yn ardaloedd Manceinion Fwyaf, Cleveland, tair bwrdeistref yn Llundain a gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Dywedodd y Gweinidog dros Ddiogelu a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched, Jess Phillips: "Dro ar ôl tro, mae dioddefwyr cam-drin domestig yn dweud wrthyf fod eu diogelwch wedi'i beryglu gan system sy'n methu â'u hamddiffyn yn iawn. 

"Dyna pam nad yw'r gorchmynion amddiffyn cam-drin domestig newydd hyn yn addewidion papur - maen nhw'n arfau ymarferol go iawn sy'n dilyn y rhai sy'n cam-drin drwy dagio electronig, creu parthau gwahardd, a gorfodi presenoldeb mewn rhaglenni newid ymddygiad."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Mae’r gorchmynion newydd hyn yn darparu amddiffyniad cryfach i ddioddefwyr cam-drin domestig, yn symleiddio eu mynediad at gymorth ac yn sicrhau bod pwerau llys yn llymach nag erioed o’r blaen.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.