Eisteddfod Genedlaethol: 'Penderfyniad beirniaid yn derfynol'
Eisteddfod Genedlaethol: 'Penderfyniad beirniaid yn derfynol'
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud fod "penderfyniad beirniaid yn derfynol yng nghystadlaethau’r Brifwyl".
Daw hyn wedi i gystadleuaeth y Fedal Ddrama gael ei hatal yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf y llynedd, ond ni chafodd rheswm ei roi ar y pryd dros wneud hynny.
Mewn datganiad ddydd Sul, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Yn dilyn trafodaeth, bydd argymhellion yn cael eu cyflwyno i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr fod penderfyniad beirniaid yn derfynol yng nghystadlaethau’r Brifwyl ac nad oes hawl i ymyrryd yn y penderfyniad na’r broses feirniadu."
Ychwanegodd yr Eisteddfod mai'r unig eithriad ar gyfer hyn fyddai mewn "achos o dorri rheol cystadleuaeth neu dwyll".
Mae'r Llys hefyd wedi cytuno y dylai Bwrdd yr Eisteddfod ar y cyd â Chyngor yr Eisteddfod ymchwilio i'r "posibilrwydd o ddiwygio rheolau ac amodau cystadlaethau a/neu Reolau Sefydlog yr Eisteddfod".
Mae canllawiau newydd i feirniaid, a rheolau ac amodau sydd wedi eu diwygio eisoes wedi'u cytuno gan y Pwyllgor Diwylliannol, y Bwrdd a'r Cyngor ers Eisteddfod 2024.
Dywedodd yr Eisteddfod fod beirniaid Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam wedi derbyn y canllawiau yma.
Bydd y rheolau ac amodau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi yn Rhestr Testunau Eisteddfod y Garreg Las yn dilyn seremoni'r Cyhoeddi ar 17 Mai.