Wrecsam: Cyrraedd yr Uwch Gynghrair yn ‘dechrau teimlo’n beth go iawn’
Mae cyd-berchnogion clwb pêl-droed Wrecsam wedi dweud bod cyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr yn 'dechrau teimlo fel peth go iawn' ar ôl iddyn nhw ennill dyrchafiad i’r Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.
Enillodd Wrecsam o 3-0 yn erbyn Charlton Athletic o flaen y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney a brynodd y clwb yn 2021.
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu fod tîm Phil Parkinson wedi ennill dyrchafiad o Adran Un yn yr ail safle gan greu hanes drwy fod y tîm proffesiynol cyntaf i sicrhau dyrchafiad mewn tri thymor yn olynol.
Ar ôl y gêm dywedodd y ddau fod “y freuddwyd amhosib” o gyrraedd yr Uwch Gynghrair yn dal yn fyw.
Dywedodd Ryan: “Mae’n teimlo fel breuddwyd amhosib. Y gymuned yma – does gen i ddim geiriau amdanyn nhw – yr angerdd, yr emosion a’r trawsnewidiaeth.
“Mae popeth yn dod yn ôl i Phil (Parkinson) a’r ffydd sydd gan y clwb ynddo. Fe ddywedodd rhyw bedair blynedd yn ôl taw ein nod oedd cyrraedd yr Uwch Gynghrair ac roedd tipyn o bobl yn chwerthin. Ond mae’n dechrau teimlo fel rhywbeth go iawn gall ddwyn ffrwyth.
“Mae gan Rob a minnau y swydd hawsaf yn y byd jyst i droi fyny a gwylio profiad y clwb anhygoel yma’n datblygu. Nid ni yw’r rhai sy’n gweithio’n galed yma o ddydd i ddydd.”
Fe wnaeth y ddau hefyd roi teyrnged i’r holl bobl tu ôl i’r llenni yn y clwb.
Dywedodd Rob: “Mae cymaint o bobl yma sydd ddim yn cael y clod mae nhw’n haeddu.
"Mae pobl yma bob dydd – y stiwardiaid, yn amlwg y cefnogwyr, tîm y cyfryngau, y staff hyfforddi, pawb sy’n cadw’r chwaraewyr yn ddiogel. Y bobl hynny does neb yn siarad amdanynt neu’n canu amdanynt."