O leiaf 11 o bobl wedi marw ar ôl i gar yrru i mewn i dyrfa yng Nghanada
O leiaf 11 o bobl wedi marw ar ôl i gar yrru i mewn i dyrfa yng Nghanada
Mae o leiaf 11 o bobl wedi marw ar ôl i gar gael ei yrru i mewn i dyrfa yn ninas Vancouver yng Nghanada, meddai heddlu'r ddinas.
Dywedodd Heddlu Vancouver fod “nifer eraill” wedi’u hanafu yn ystod y digwyddiad toc wedi 20:00 amser lleol nos Sadwrn (03:00 amser Cymru fore dydd Sul) mewn gŵyl stryd.
Dywedodd y llu fod y gyrrwr yn y ddalfa a'u bod nhw'n "hyderus nad oedd y digwyddiad hwn yn weithred o derfysgaeth".
Dywedodd yr heddlu fod y gyrrwr wedi gyrru i mewn i gerddwyr yng ngŵyl flynyddol Lapu Lapu, sy'n dathlu diwylliant Ffilipinaidd yn ne Vancouver.
"Byddwn yn darparu mwy o wybodaeth wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo," meddai’r llu.
Dywedodd Prif Weinidog Canada, Mark Carney, ei fod wedi ei “lorio” gan y digwyddiad.
"Rwy'n cydymdeimlo'n ddwys ag anwyliaid y rhai a laddwyd ac a anafwyd, i'r gymuned Ffilipinaidd Canada, ac i bawb yn Vancouver. Rydym i gyd yn galaru gyda chi," meddai.
Llun: Reuters