Caerdydd yn disgyn i Adran Un am y tro cyntaf mewn 22 mlynedd
Mae Caerdydd wedi disgyn i Adran Un am y tro cyntaf mewn 22 mlynedd.
Er mwyn i'r Adar Gleision aros yn y Bencampwriaeth, roedd yn rhaid iddyn nhw gael canlyniad gwell na Derby, a enillodd yn erbyn Hull ddydd Sadwrn.
0-0 oedd hanes Caerdydd yn erbyn West Brom yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn.
Naw gem yn unig y mae Caerdydd wedi ennill y tymor yma, gan gael 17 gêm gyfartal a cholli 19.
Mae tîm Aaron Ramsey ar waelod y tabl gyda 44 pwynt.
Mae gan Luton, sydd un safle uwchben y tri isaf, 49 pwynt.
Gyda un gêm yn weddill tan ddiwedd y tymor, ni fyddai buddugoliaeth yn ddigon i sicrhau fod Caerdydd yn aros yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.
Mae Aaron Ramsey wedi bod wrth y llyw fel rheolwr wedi i Omer Riza gael ei ddiswyddo fel rheolwr yn gynharach yn y mis.
Bydd Caerdydd yn wynebu Norwich yn eu gêm olaf yn y Bencampwriaeth am y tro ddydd Sadwrn nesaf.