Newyddion S4C

Gweilch y Pysgod yn dodwy ŵy yn ne Cymru am y tro cyntaf mewn 250 mlynedd

Gweilch dyffryn Wysg

Am y tro cyntaf mewn dwy ganrif a hanner, mae pâr o Weilch y Pysgod wedi dodwy eu ŵy cyntaf yn eu nyth yn agos i Dal-y-bont ar Wysg, ger Aberhonddu ym Mhowys. 

Mae hyn yn cael ei weld fel arwydd hollbwysig o'r rhywogaethau prin yn adfer eu niferoedd yng Nghymru.

Mae arbenigwyr bywyd gwyllt yn credu mai dyma'r ŵy cyntaf i gael ei ddodwy gan y Gweilch yn Nyffryn Wysg ers 250 o flynyddoedd.

Mae Gweilch y Pysgod eisoes wedi dychwelyd i ardal afon Glaslyn ger Porthmadog yn gynharach yn y mis ar ôl treulio’r gaeaf yng ngorllewin Affrica.

Mae ardal Afon Glaslyn wedi bod yn dyngedfennol i ymdrechion cadwraeth yr adar prin yng Nghymru.

Canolfan Bywyd Gwyllt Glaslyn yn 2004 oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i nodi’n swyddogol fod gweilch yn nythu yno.

Mae’r adar wedi dychwelyd i safleoedd eraill ar draws Cymru yn ardal Llyn Brenig ac o amgylch afon Dyfi.

Roedd yr adar wedi diflannu’n llwyr o Gymru cyn hynny.

Mae’r newyddion diweddaraf wedi rhoi hwb sylweddol i ymdrechion cadwraeth.

Dywedodd elusen Gweilch y Pysgod Dyffryn Wysg eu bod nhw’n gobeithio y bydd un neu ddau ŵy arall yn cael eu dodwy yn y dyddiau nesaf.

Llun: Gweilch y Pysgod Dyffryn Wysg

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.