
Cynnal angladd y Pab Ffransis yn y Fatican
Cynnal angladd y Pab Ffransis yn y Fatican
Mae angladd y Pab Ffransis wedi cael ei gynnal yn y Fatican fore Sadwrn.
Bu farw'r Pab Ffransis, Jorge Mario Bergoglio, yn 88 oed yn ei gartref, Casa Santa Marta, fore Llun y Pasg.
Daeth cadarnhad nos Lun iddo farw o strôc a phroblemau gyda'i galon.
Roedd hynny lai na diwrnod wedi iddo ymddangos ar Sgwâr San Pedr ar Sul y Pasg pan gyhoeddodd neges fer iawn yn dymuno Pasg Hapus i'r dorf.
Dechreuodd ei angladd am 10.00 amser lleol (09.00 yng Nghymru) yn Sgwâr San Pedr yn y Fatican ddydd Sadwrn.
Y Cardinal Giovanni Battista Re, deon Coleg y Cardinaliaid, wnaeth arwain y gwasanaeth.
Mae'r Fatican wedi dweud bod 250,000 o bobl yn mynychu'r angladd.
Ymhlith yr arweinwyr rhyngwladol yno oedd: Y Tywysog William; Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y DU; a Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau.
Fe gafodd Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky ei gymeradwyo gan y gynulleidfa wrth iddo adael Basilica San Pedr.

Yn dilyn yr angladd cafodd corff y Pab Ffransis ei gludo er mwyn cael ei gladdu 2.3 milltir i ffwrdd ym Masilica'r Santes Fair yn Rhufain.
Y Pab Ffransis fydd y Pab cyntaf mewn dros ganrif i orffwys y tu allan i'r Fatican.
Roedd wedi dewis arch bren syml yn hytrach na'r tri arferol y bydd Pab yn cael ei gladdu ynddynt.
Roedd hefyd wedi cael gwared â'r traddodiad o osod corff y Pab ar blatfform uwch ym Masilica Sant Pedr fel bod modd i'r cyhoedd ei weld.

Yn hytrach roedd modd i alarwyr roi teyrnged iddo tra roedd ei gorff y tu mewn i'r arch, gyda'r clawr wedi ei dynnu oddi yno.
Y gred yw bod tua 150,000 o bobl wedi cerdded heibio iddo dros y tridiau diwethaf.
Yn draddodiadol mae'n rhaid i angladd y Pab gael ei gynnal rhwng pedwar a chwe diwrnod ar ôl ei farwolaeth, yn ôl rheolau a sefydlwyd ym 1996.
Bydd ei angladd yn nodi dechrau’r Novemdiales – cyfnod swyddogol o naw diwrnod o alaru.

Yna bydd y sylw yn troi at y broses o ddewis olynydd, gyda'r pleidleisio’n dueddol o ddigwydd 15 i 20 diwrnod ar ôl ei farwolaeth.
Yn draddodiadol ers 1378 mae’r Pab yn cael ei ethol gan Goleg y Cardinaliaid, proses oedd yn destun y nofel a'r ffilm ddiweddar Conclave.
