Newyddion S4C

Carys Eleri am 'atgoffa pobl' am bwysigrwydd cyfathrebu gyda sioe gomedi newydd

Carys Eleri am 'atgoffa pobl' am bwysigrwydd cyfathrebu gyda sioe gomedi newydd

Mae’r actores a'r cyflwynydd Carys Eleri wedi dweud ei bod yn awyddus i “atgoffa pobol” mai “sgwrsio yw’r dechnoleg fwyaf soffistigedig sydd ‘da ni” – nid y cyfryngau cymdeithasol na’r we. 

Fe ddaw ei sylwadau wrth iddi baratoi i deithio â'i sioe gomedi newydd o’r enw Tonguing, sydd yn trafod pwysigrwydd cyfathrebu wyneb yn wyneb. 

“Mae’r sioe amdano cyfathrebu a chysylltiad yn enwedig ar ôl cyfnod y pandemig” esboniodd Carys wrth siarad â Newyddion S4C

Mae’n benderfynol o roi’r “toolkits” i bobl fynd i’r afael â’r unigrwydd sydd wedi datblygu yn sgil y cyfnod clo a'r oes ddigidol gan eu helpu nhw i “weld eu hunain trwy’r byd” gyda chymorth niwrowyddoniaeth. 

Gobaith Carys yw helpu pobl i ddeall “fel mae eu hymennydd nhw’n gweithio mewn byd digidol ac i warchod eu hymennydd nhw".

“Fy nod yw i annog pobol i gyfathrebu wyneb yn wyneb,” meddai. 

Image
Carys Eleri
Mae Carys Eleri hefyd yn dderwydd

'Dyw heddwch ddim yn digwydd gyda tweet'

Fel rhan o waith paratoi Tonguing, fe aeth Carys i ymweld â Sefydliad Max Planck yn yr Iseldiroedd er mwyn holi'r niwrowyddonwr blaenllaw Dr Simon Fisher a ddaeth o hyd i’r genyn sy’n gysylltiedig â’n gallu i siarad. 

Roedd yr awdur a’r Athro Dean Burnett sy’n arbenigo yng ngwyddorau’r emosiynau hefyd yn greiddiol i’w gwaith wrth lunio’r sioe, meddai. 

“Sioe am wyddoniaeth cysylltiad yw e so oedd rhaid i fi ‘neud ymchwil achos sa’i yn wyddonydd," meddai.

“Felly os o’n i mynd i mynd lawr lôn o ran creu sioe amdano gwyddoniaeth cysylltu a chyfathrebu ‘odd angen i fi ddeall y stwff na ag odd angen i fi neud y gwaith i allu rhoi’r ffeithiau i bobol.” 

Image
Carys Eleri

Mae’n awyddus i bwysleisio pa mor bwysig ydy cyfathrebu wyneb yn wyneb wrth drafod materion bob dydd, neu broblemau ehangach. 

“Mae’r term ‘peace talks’ yn ‘weud y cwbwl. Peace has to talk. Mae’n rhaid i heddwch siarad. Dyw heddwch ddim yn digwydd wrth rannu statements ar y we, dyw heddwch ddim yn gallu digwydd gyda tweet," meddai.

“Yr elfen o sgwrsio yw’r dechnoleg fwyaf soffistigedig sydd ‘da ni ar y ddaear a ni angen pobl i gael eu hatgoffa o hwnna.”

Image
Carys Eleri
Carys Eleri yn ystod seremoni Heuldro'r Haf ym Mryn Celli Ddu, 2024

'Angen atgoffa pobl o'u pwysigrwydd'

Mae Carys Eleri yn dderwydd ac wedi cydweithio gyda’r derwyddon adnabyddus arall, Maggi Noggi, neu Kristoffer Roberts yn y gorffennol. Dywedodd bod ei phrofiadau personol wedi helpu i lunio’r sioe. 

“Pan ti’n defnyddio profiadau dy hunan mae pobl yn gallu gweld eu bywydau nhw eu hunain yn hwnna," meddai.

“’Na beth ‘wy’n gobeithio yw bod pobl yn cael eu hatgoffa o pwysigrwydd nhw yn y byd a pwysigrwydd cymuned a pwysigrwydd cysylltu.” 

Er bod y sioe ei hun yn ffocysu mwy ar agweddau “gwyddonol” a “ffeithiol”, mae ei derwyddiaeth hefyd wrth wraidd hi a’i gwaith, meddai. 

“Mae’r elfen dderwyddol jyst yno fi, a mae hwnna i gyd amdano cymuned," meddai. 

“Mae bod yn rhan o’r byd ‘na wedi helpu fi’n arw ers cyfnod y pandemig yn sicr ac wrth gwrs yn gyrru fi o ran creu’r sioe 'ma.”

Bydd Tonguing yn cychwyn ei thaith ar 8 Mai yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.