Newyddion S4C

Pêl-droed: Penwythnos tyngedfennol i Gaerdydd a Wrecsam

Pêl-droed: Penwythnos tyngedfennol i Gaerdydd a Wrecsam

Mae hi’n benwythnos tyngedfennol i glybiau pêl-droed Wrecsam a Chaerdydd y penwythnos yma.     

Yn ail yn Adran Un, mae Wrecsam yn gobeithio cael eu dyrchafu i’r Bencampwriaeth.  

Yn isaf ond un yn y Bencampwriaeth, mae Caerdydd yn gobeithio osgoi disgyn i Adran Un.     

Er fod yna ddwy gêm yn weddill i’r ddau glwb tan ddiwedd y tymor, fe all Caerdydd a Wrecsam wybod erbyn nos Sadwrn ym mha gynghrair fyddan nhw’n chwarae’r tymor nesaf.     

Dyma olwg fanylach ar yr hyn sydd angen i'r ddau dîm ei wneud er mwyn chwarae yn erbyn ei gilydd y tymor nesaf yn y Bencampwriaeth. 

Wrecsam

Mae tîm Phil Parkinson yn ail ar hyn o bryd yn Adran Un gyda 86 o bwyntiau, a Wycombe yn drydydd efo 84 pwynt. 

Yn syml, os ydi Wrecsam yn ennill yn erbyn Charlton a Wycombe yn colli neu cael gêm gyfartal yn erbyn Leyton Orient, bydd tîm Phil Parkinson yn sicrhau dyrchafiad.     

Wrecsam fyddai’r unig dîm proffesiynol erioed i sicrhau dyrchafiad mewn tri tymor yn olynol.     

Os nad ydi hyn yn digwydd, mae yna nifer o ganlyniadau eraill a all effeithio ar safle Wrecsam cyn ddiwedd y tymor, o ystyried mai pum pwynt yn unig sydd yn gwahanu Wrecsam, sy'n ail, a Stockport sy'n bumed.

Caerdydd

Mae sefyllfa Caerdydd ychydig yn fwy cymhleth oherwydd fod eu tynged nhw allan o'u dwylo nhw.

Hyd yn oed os ydi’r Adar Gleision yn ennill eu dwy gêm sy’n weddill yn erbyn West Brom a Norwich, mae’n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar ganlyniadau o’u cwmpas yn mynd o'u plaid.

Y sefyllfa orau i Gaerdydd dros y penwythnos ydi eu bod nhw yn curo West Brom, fod Hull yn curo Derby, a Luton yn colli yn erbyn Coventry. 

Os ydi hyn yn digwydd, ac mae hynny yn os mawr, fe fydd y tri thîm gyda 46 pwynt yr un cyn gêm ola’r tymor.

Os nad ydi hyn yn digwydd, fe all Caerdydd ddisgyn i Adran Un erbyn nos Sadwrn yn ddibynnol ar ganlyniadau eraill.      

Ond, y freuddwyd o hyd ydi cael tri chlwb o Gymru, Abertawe, Caerdydd a Wrecsam, yn chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.