Arweinwyr y byd yn cyrraedd y Fatican ar gyfer angladd Y Pab
Mae arweinwyr y byd wedi dechrau cyrraedd y Fatican ar gyfer angladd Y Pab Ffransis ddydd Sadwrn.
Bydd y paratoadau olaf yn cael eu gwneud ddydd Gwener ar gyfer yr angladd wrth i'w gorff gael ei arddangos yn Basilica Sant Pedr tan 19:00.
Fe fydd nifer o arweinwyr y byd ac aelodau o deuluoedd brenhinol yn mynychu'r angladd ddydd Sadwrn yn Sgwâr San Pedr.
Ymysg y 50 arweinydd byd fydd yn bresennol fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump ac Arylwydd Wcráin Volodymyr Zelensky.
Bydd Tywysog Cymru, William, hefyd yn bresennol yn yr angladd.
Mae'r awdurdodau yn yr Eidal a'r Fatican wedi gosod yr ardal o gwmpas Sgwâr San Pedr o dan reolau diogelwch llym cyn yr angladd.
Ar ôl yr angladd bydd arch y Pab Ffransis yn cael ei gludo mewn car ar gyflymder araf er mwyn cael ei gladdu yn ei hoff eglwys, Basilica Santa Maria Maggiore yn Rhufain.
Bydd un gair yn unig ar ei fedd, sef 'Franciscus'.
Fe all y cyhoedd ymweld â'r bedd o fore Sul ymlaen.