Dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint
Mae dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir y Fflint.
Derbyniodd Heddlu'r Gogledd adroddiadau am 16:26 ddydd Iau o wrthdrawiad yn ymwneud â phedwar cerbyd ar yr A548 Ffordd Mostyn ger cyffordd pentref Gwesbyr.
Roedd y gwasanaethau brys hefyd yn bresennol, ond bu farw gyrrwr un o'r cerbydau yn y fan a'r lle.
Mae ei theulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Dywedodd y Sarjant Leigh McCann o Uned Troseddau'r Ffyrdd: "Yn anffodus, mae'r digwyddiad yma yn cael ei drin fel gwrthdrawiad ffordd angheuol ac mae ein meddyliau gyda theulu'r ddynes yn ystod y cyfnod anodd yma.
"Rydym yn annog unrhyw un â oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un oedd yn teithio neu gerdded ar hyd Ffordd Mostyn ger cyffordd pentref Gwesbyr ac sydd â gwybodaeth i gysylltu â ni."
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r cyfeirnod C058038.