Ceredigion: Anafiadau wedi i gar droi drosodd
Mae gyrrwr wedi ei gludo i’r ysbyty wedi i’w gar droi drosodd ar ôl bwrw ymyl y ffordd Ngheredigion.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar ffordd y C1010 ger Penrhyncoch am 09.50 fore Gwener.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys car Audi A1 gwyn.
Fe gafodd y gyrrwr ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau nad oedd yn peryglu ei fywyd.
Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd y digwyddiad, neu a allai fod â lluniau camera dangosfwrdd a allai helpu ymholiadau, i gysylltu â nhw.