Newyddion S4C

'Pwysigrwydd i statws yr iaith': Cyfieithu llyfr The Hobbit i iaith Aeleg

A'Hobat

Mae llyfr The Hobbit gan JRR Tolkein wedi cael ei gyfieithu i iaith Aeleg.

Mae Moray Watson, Athro Gaeleg a chyfieithu ym Mhrifysgol Aberdeen wedi bod yn gweithio ar y llyfr ers cyn pandemig Covid-19.

Wedi llawer o oedi a gweithio ar y cyfieithiad ar y cyd gyda'i waith dysgu, dywedodd yr Athro Watson ei fod nawr wedi cwblhau A'Hobat.

Mae'r cyfieithiad wedi ei gefnogi gan Gyngor Llyfrau Gaeleg a dyma'r diweddaraf o nifer o lyfrau mewn ieithoedd lleiafrifol gan gynnwys Llydaweg a Hawaiiaieg a hefyd y Gymraeg.

Dywedodd Moray Watson ei fod yn bwysig bod llyfrau amrywiol ar gael mewn ieithoedd lleiafrifol, yn enwedig mewn ymgais i geisio cynyddu nifer y siaradwyr.

"Mae mwynhad darllen o bwysigrwydd enfawr pan mae'n dod i statws iaith," meddai.

"I allu dewis o lyfrau amrywiol, mae hynny'n hynod bwysig wrth ddysgu iaith neu i wneud yr ymdrech i feistroli iaith.

"Pan dwi'n dysgu iaith newydd, dwi bob tro yn gwirio os oes copi o The Hobbit yn yr iaith honno.

"Dyw e ddim yn syndod bod pobl yn cwympo mewn cariad gyda'r llyfr yma, ac yn parhau i wneud 90 mlynedd ar ôl iddo gael ei gyhoeddi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.