Caniatâd i addasu cartref yr Esgob William Morgan
Mae perchnogion cartref genedigol y dyn wnaeth gyfieithu'r Beibl cyfan i’r Gymraeg am y tro cyntaf wedi cael caniatâd i greu arddangosfa o Feiblau Cymraeg yno.
Mae ymdrechion yr Esgob William Morgan i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg erbyn 1588 yn cael y clod am achub yr iaith am genedlaethau i ddod.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi rhoi caniatâd ar gyfer addasu ei gartref genedigol, Tŷ Mawr Wybrnant, Penmachno, ger Betws-y-coed.
Bydd yn cynnwys trawsnewid adeilad allanol yn gartref ar gyfer arddangosfa lawn o Feiblau a fydd yn cael eu cadw mewn amodau safonol gyda rheolau ar wres a lleithder.
Bydd wal ddeheuol y tŷ, sydd wedi dioddef o leithder, yn cael ei rendro â chalch.
Bydd gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i risiau cul, serth i alluogi mwy o bobl i gyrraedd y llawr cyntaf.
Mewn datganiad yn esbonio’r effaith ar dreftadaeth yr adeilad ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, dywedodd Dewis Architecture: “Bwriad allweddol y prosiect yw cadwraeth yr ased hanesyddol er budd cenedlaethau’r dyfodol.
“Fe fydd yn ogystal yn hwyluso mynediad i’r tu mewn er mwyn sicrhau ffordd fwy addas o gael mynediad i lawr cyntaf yr eiddo, ynghyd â phrofiad gwell i ymwelwyr.”
Cafodd Tŷ Mawr, adeilad rhestredig Gradd II*, ei adfer gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1988 ond yn ystod pandemig Covid trosglwyddwyd rhai o’r Beiblau a oedd yn cael eu harddangos, gan gynnwys un o’r 1588 copi, i Gastell y Waun.
Argraffwyd tua 1,000 o gopïau o Feibl 1588 a chredir mai dim ond tua 20 sy'n dal i fodoli.