
Adeiladwr o Fôn yn anelu am her y tri chopa ar ôl colli 10 stôn mewn 15 mis
Mae adeiladwr o Ynys Môn sydd wedi colli 10 stôn mewn 15 mis ac sydd wedi byw gyda problemau iechyd meddwl yn paratoi i geisio ddringo copaon uchaf Yr Alban, Lloegr a Chymru mewn 24 awr.
Mae Richard Williams, 53 oed, a’i gyd-weithwyr yng nghwmni adeiladu Castle Green wedi llwyddo i godi dros £30,000 i elusennau wrth baratoi ar gyfer Her y Tri Chopa - her na fyddai wedi gallu dychmygu ei wynebu ychydig dros flwydydn yn ôl.
Yn 2023, roedd Williams, sydd yn dod o Falltraeth, Ynys Môn yn wreiddiol, yn pwyso 22 stôn.
“Dwi di syffro efo’m mhwysau ers blynyddoedd,” meddai'r tad wrth siarad â Newyddion S4C.

“Ag achos o huna, o’n i’n syffro efo problemau mental health hefyd. Mae na petha, fel pan ti’n mynd ar aeroplane a ti’n embarrased pan ti’n gofyn am extenstion belt, odd petha felly i gyd yn adio i fyny.
“Odd ffrindiau fi yn gofyn tisho mynd am beint, ‘ia iawn, ok’, ond wedyn dwi misho mynd achos dwi’n embarrased o fi’n hyn, a ti’n ffindio un rhyw excuse i beidio mynd. Mae o i gyd yn adio i fyny.”
'Colli pwysa'
Wrth iddo droi’n 50 oed, fe gafodd rybudd gan y meddyg fod angen iddo ddilyn trywydd gwahanol er mwyn osgoi problemau pellach gyda’i iechyd.
Ychwanegodd Richard, sydd yn gyfarwyddwr adeiladu i'r cwmni: “Nath y doctor rhoi warning i fi. ‘Yli, ti’n 50 oed rwan, ond erbyn pan ti’n 55, fydd gen ti broblemau.
“Ella fyddi di’n diabetic, ella gei di drawiad ar y galon neu strôc, fyddi di isho dau ben-glin newydd, a nath o ddeud ella fyddi di’m yn gallu gweithio,’ - a nath huna rhoi cic yn fy nhin i ddeud y gwir.
“Dyna pryd nesh i decido neud rwbath amdano fo," meddai'r gŵr, sydd bellach yn byw yn Wrecsam.
Fe ddechreuodd y siwrnai i wella ei iechyd ei hun fis Hydref 2023, drwy dorri bwydydd fel siocled allan o’i ddiet, gyda chefnogaeth ei bartner, Louise.
Fe wnaeth roi'r gorau i yfed alcohol fis yn ddiweddarach, ac yn Ionawr 2024, fe wnaeth ddechrau mynd am dro.
“Eshi all out efo’r cerddad a ballu yn Ionawr, a neshi sylwi – ‘blydi el, dwi’n dechra colli pwysa yn fama," meddai.
“Mae fy mhartner i wedi bod yn encouragio fi a cwcio bob dim yn fresh, ac organic.
“Mae portions fi’n llai. Dwi di bod yn ffastio lot, sydd yn iach i chdi a mae hi mewn i petha felly i gyd, felly ma hi’n gwatchad ar ôl fi’n iawn.
"Hebddi hi, swni’m 'di gallu neud hanner be dwi 'di neud i ddeud y gwir.”
'Angan trainio'
Ar ôl llwyddo i ddringo i gopa’r Wyddfa fis Awst, fe benderfynodd y byddai yn gosod yr her eithafol o geisio dringo i gopa Ben Nevis yn yr Alban, Scafell Pike yn Lloegr, a’r Wyddfa – a hynny mewn 24 awr,
Fe fydd yn cael cwmni ei gyd-weithwyr o Castle Green, sydd wedi eu hysbrydoli gan ei drawsnewidiad.
“Am bo fi wedi commitio fy hun i ddeud wrth pobol a cal criw arall i ymuno efo fi, neshi ddeud ‘ti methu troi nôl rwan Rich’, so neshi decidio wedyn bod angan trainio," meddai.
“O fynd unwaith y mis, oni’n mynd dwywaith y mis, tair gwaith, pedair, pum gwaith y mis. So rwan, dwi’n teimlo’n confident amdano fo.
“Dwi di bod yn siarad efo staff gwaith amdano fo. Neshi neud neud speech yn y staff conference o flaen tua 120 o bobl.
“Ma’ ‘na lot o bobol yn dod ato fi ‘su dros eu pwysau ac yn gofyn fi am help i neud be dwi di neud, a dwi di rhoi enouragement iddyn nhw a siarad yn reit onast efo nhw, a lle dwi di bod yn fy mywyd i."
'Dwi 'di safio bywyd fy hun'
Mae’r holl waith caled bellach wedi dwyn ffrwyth ac mae Rich bellach yn pwyso 12 stôn 2 bwys ac yn teimlo’n llawer iawn iachach.
“Dwi di colli bron i 10 stôn rŵan ond mae o di bod yn waith caled," meddai.
"A mi fydd o’n waith caled am byth i fi achos di o ddim just yn quick fix, mae’n rwbath fydd rhaid i fi gario ‘mlaen i neud, fel cerddad, cadw’n heini.
“Dwi’n cal amball i woblan weithia, a ma huna’n naturiol. Fedra di’m bod yn hapus 24 hours y diwrnod, saith dwrnod yr wsos na?
“Ond dwi’n teip o foi sydd byth yn tapio fy’n hun ar fy nghefn. Dwi ‘di meddwl am bobl erill gynta’ drwy fy mywyd i, ond am y last 18 months, dwi di meddwl am fy hun a mewn ffor’, dwi di safio bywyd fy hun wrth ‘neud huna.”
Fe fydd Richard, Nigel Pritchard, Mike Williams, Gethyn Evans, George Povey a Paul Jones yn gwneud her y Tri Chopa ar ddydd Iau 26 Mehefin.
Mae’r criw bellach wedi codi dros £30,000 i elusen iechyd meddwl Chasing the Stigma, elusen Prostate Cancer UK a Sefydliad Ogwen Valley Mountain Rescue.