Twnnel Conwy wedi ailagor ar ôl tân
Mae twnnel Conwy wedi ailagor yn llwyr ar ôl tân brynhawn ddydd Iau.
Mae'r ffordd i'r gorllewin bellach ar agor yn gyfangwbl.
Dywedodd Traffig Cymru bod eu timau wedi gweithio ers y tân i archwilio’r twnnel a chynnal gwaith atgyweirio.
Fe fydd cyfyngiadau cyflymder o 50 mya yn parhau mewn lle.
Ychwanegodd Traffig Cymru bod cynlluniau i gau’r twnnel dros nos ar gyfer wythnos nesaf yn parhau er mwyn parhau gyda’r gwaith atgyweirio.
Cafodd "digwyddiad mawr" ei gyhoeddi yno ddydd Iau ac roedd 10 injan dân a phedwar peiriant arbenigol wedi eu galw i'r twnnel ar yr A55 ychydig cyn 14:00 brynhawn ddydd Iau, meddai'r gwasanaeth tân.
Bu’n rhaid dargyfeirio traffig gan achosi tagfeydd ar ffyrdd eraill yn yr ardal.
Mae lluniau o'r fan a'r lle yn awgrymu mai lori craen aeth ar dân.
'Ymarfer'
Fe arweiniodd y tân ddydd Iau at oedi mawr a thagfeydd traffig drwy gymunedau gwledig gan gynnwys Betws-y-Coed a Llanrwst.
Dywedodd Nigel Harrison, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, bod y tagfeydd yn anochel “o ystyried daearyddiaeth Gogledd Cymru”.
"Unwaith eto, rwy’n gwerthfawrogi amynedd y cyhoedd yn fawr, a does dim dwywaith y bydd yn parhau gan fod angen gwneud atgyweiriadau pellach,” meddai.
Ond roedd y problemau yn destun beirniadaeth gwleidyddol gyda Gareth Davies, yr aelod Ceidwadol o Senedd Cymru dros Ddyffryn Clwyd, yn dweud bod cau'r twnnel yn dangos pa mor “fregus” oedd rhwydwaith ffyrdd gogledd Cymru.
Dywedodd Janet Finch-Saunders, AS Ceidwadol Aberconwy, nad oedd oedi mawr ar yr A55 “yn beth prin” ond ei fod yn achosi “anhrefn”.
“Mae’n rhaid gofyn cwestiynau mawr ynghylch pam nad oedd yr awdurdodau a Heddlu Gogledd Cymru wedi paratoi," meddai.
“Rwy’n hynod ddiolchgar i aelodau’r gymuned a wirfoddolodd i helpu i reoli’r traffig, fel yn Llanrwst.”
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru, eu bod nhw wedi paratoi ar gyfer digwyddiad o'r fath.
"Cynhaliwyd ymarfer ychydig fisoedd yn ôl i edrych ar wytnwch cynlluniau Llywodraeth Cymru, NMWTRA, gwasanaeth tân ac achub Gogledd Orllewin Cymru a gwasanaethau brys eraill i ddelio â'r senario hwn ar yr A55 yn Nhwnnel Conwy," meddai.
"Mae hynny mae'n amlwg wedi talu ar ei ganfed gan i'r ymarfer gael ei roi ar waith ddoe i helpu i leihau difrod. Mae'r cydweithio hwn gyda'n partneriaid yn parhau, gyda chyfarfodydd aml-asiantaeth yn cael eu cynnal wrth i ni ddelio â chanlyniadau'r digwyddiad."