Newyddion S4C

'Swreal': Creu dartiau swyddogol cyntaf dyn ifanc o Sir Benfro

Llew Bevan

"Pan o’n i’n tyfu lan o’n i’n prynu darts trwy’r amser, ond byth yn meddwl bydde fi mewn sefyllfa nawr lle ma' pobl yn gallu mynd ar-lein a prynu darts fi."

Mae gan chwaraewyr dartiau adnabyddus Cymru fel Jonny Clayton a Gerwyn Price ddartiau sydd wedi eu dylunio'n benodol ar eu cyfer, a nawr mae dyn ifanc o Sir Benfro newydd dderbyn stoc o'i ddartiau personol ei hun.

Cafodd dartiau newydd Llew Bevan o Faenclochog eu rhyddhau'n swyddogol gan gwmni dartiau Mission yn ddiweddar.

Mae'r cwmni yn creu dartiau sawl unigolyn adnabyddus yn y byd dartiau gan gynnwys enillydd y Grand Prix, Mike De Decker a'r pencampwr Ewropeaidd presennol Ritchie Edhouse.

Fe wnaeth Llew arwyddo cytundeb gyda Mission ym mis Ionawr 2024.

Ers hynny mae'r Cymro Cymraeg wedi bod yn chwarae yng nghystadlaethau ledled y DU ac yn gobeithio chwarae ar gylchdaith y PDC yn fuan.

“Nes i ddechrau off yn chwarae yn y development tours a Q School a ma' Darryl Fitton (pennaeth recriwtio Mission) wedi sylwi arna fi yn lot o gystadlaethau," meddai wrth Newyddion S4C.

“Wedyn wnaeth e gysylltu yn dweud bod e’n cadw llygaid a wedyn ar ôl Pencampwriaeth y Byd 2023 wnaethon nhw approcho fi yn gofyn os fydden i’n fodlon mynd lan ‘da nhw i gael chat yn Bolton."

Image
Llew Bevan yn arwyddo i Mission ym mis Ionawr 2024
Llew Bevan yn arwyddo i Mission ym mis Ionawr 2024. (Llun: Mission Darts)

Ychwanegodd Llew: “Es i lan a seino bob dim a cael fy announco fel un o chwaraewyr nhw ym mis Ionawr 2024. Mae ‘di cymryd dipyn o amser i ddod lan gyda’r darts ond nawr bod nhw ‘ma, ma' fe worth the wait.

“O’n nhw ‘di gofyn pa fath o steil, pa liwiau a dyna nhw’n mynd wedyn.

"Ma’ nhw ‘di dod lan gyda’r design cynta' a hala set mas i fi a nesi iwso nhw am fis, a ennill cystadleuaeth y tro cynta' defnyddiais i nhw, so o’n nhw’n good, yn gweithio yn syth.

“Ma fe bach yn swreal, pan o’n i’n tyfu lan o’n i’n prynu darts trwy’r amser ond byth yn meddwl bydde fi mewn sefyllfa nawr lle ma' pobl yn gallu mynd ar-lein a prynu darts fi.

“Ma' fe bach yn wyllt rili."

Y PDC

Corfforaeth y PDC sydd yn cynnal cystadlaethau mwyaf y byd dartiau.

Mae Llew wedi chwarae ar y gylchdaith challenge a'r gylchdaith datblygu, ac wedi dod yn agos iawn at sicrhau carden gylchdaith, sydd yn eich galluogi i chwarae yn sawl un o brif gystadleuaethau y PDC.

Ers yn ifanc mae Llew yn adnabyddus o fewn y byd dartiau, ac mae'n dal record byd am gwblhau gêm dartiau 'around the clock' gyflymaf.

Yn y gêm mae rhaid taflu dart ar bob un rhif un eu trefn ar y bwrdd dartiau, cyn taro'r bullseye.

Fe wnaeth Llew gwblhau'r her mewn 1 munud ac 19 eiliad, bron i funud yn gyflymach na'r record flaenorol.

Mae hefyd wedi ennill teitl amatur Cymru a Meistri Cymru o fewn cyfnod o ddau ddiwrnod yn y gorffennol.

Image
Llew Bevan wedi iddo gael ei goroni'n Pencampwr Cymru
Llew Bevan wedi iddo gael ei goroni'n Pencampwr Cymru

Nid oedd modd i Llew cystadlu yn Q School eleni, sef y gystadleuaeth lle mae'r cyfle i ennill lle ar y gylchdaith.

Oherwydd ei waith fel technegydd pensaernïol yn Arberth, mae ei gyfleoedd wedi bod yn gyfyngedig yn 2025, ond nid yw hynny wedi atal ei obeithion o chwarae ar y gylchdaith flwyddyn nesaf.

"O’n i ffili cal amser off gwaith i fynd i Q School ym mis Ionawr, a os chi ddim yn neud hwnna chi ddim yn gallu chwarae yn y challenge tours gweddill y flwyddyn, felly fi wedi bod yn eitha’ limited o ran be' fi’n gallu neud.

So fi ‘di ffili neud stwff PDC eleni. Ond fi wedi chwarae dwywaith yn y Modus Super Series, sef cystadleuaeth eitha’ poblogaidd ar hyn o bryd.

“Ond y gobaith yw i fynd nol i Q School ym mis Ionawr, jyst work permitting a cico mlaen o fyna a cael tour card blwyddyn nesa'.

Dartiau trwy'r Gymraeg

Bydd Llew yn rhan o dîm Cymru fydd yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad dros y penwythnos.

Fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu ar S4C am y tro cyntaf ddydd Sul, sydd yn cyffroi Llew.

“Ma’n grêt gweld S4C yn darlledu’r dartiau, dyle fe fod yn eitha' da," meddai.

“Ond fi’n gobeithio nawr bydd hwn ar S4C yn ysbrydoli pobl 'to, ac mae’n wych bod y coverage i gyd trwy’r Gymraeg hefyd.

“Bydd e’n dda i darts yng Nghymru a’r gobaith gewni mwy o bobl yn chwarae eto.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.