Heddlu’n rhybuddio pobl i gadw draw o rêf yn Sir Gâr

22/06/2025
Coedwig Brechfa

Fe wnaeth Heddlu Dyfed Powys rybuddio pobl i beidio â theithio i rêf mewn coedwig yn Sir Gâr.

Dywedodd y llu eu bod nhw’n defnyddio pwerau deddfwriaeth i atal mynediad i unrhyw un oedd yn ceisio mynd i’r rêf yng nghoedwig Brechfa sydd i'r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin.

Fe ddywedodd y llu wrth drigolion lleol i fod yn “dawel eich meddwl” â’u bod nhw’n “delio â hyn yn gyflym”.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys: “Peidiwch â theithio i ardal Coedwig Brechfa - bydd unrhyw un sy'n mynd yn cael ei wrthod.

“Rydym yn ymateb i adroddiadau am rêf yn ardal coedwig Brechfa, Sir Gaerfyrddin. 

"Bydd unrhyw un sy'n mynd yn cael ei wrthod o dan y ddeddfwriaeth bresennol, ac o'r herwydd rydym yn cynghori'r rhai sy'n ystyried mynd i beidio â theithio.

"Os ydych chi'n byw yn yr ardal, byddwch yn dawel eich meddwl ein bod yn delio â hyn yn gyflym, fodd bynnag gallwch roi gwybod i ni am unrhyw bryderon." 

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw'n "cefnogi Heddlu Dyfed Powys yn yr ymateb parhaus i ddigwyddiad cerddoriaeth heb drwydded ar dir yr ydym yn ei reoli yng Nghoedwig Brechfa".

"Gall digwyddiadau anghyfreithlon fel hyn niweidio'r amgylchedd, tarfu ar fywyd gwyllt, a chreu amodau anniogel i eraill sydd am ymweld a'n coedwigoedd a'n cefn gwlad.

"Rydym yn cynghori aelodau'r cyhoedd i osgoi'r ardal tra byddwn yn parhau i gefnogi'r heddlu. Os gwelwch unrhyw beth amheus, rhowch wybod i'r heddlu drwy ffonio 101."

Ychwanegodd Heddlu Dyfed Powys yn ddiweddarach: “Roedd nifer y bobl a oedd yn rhan o’r digwyddiad a’r agweddau diogelwch ynghylch torri’r digwyddiad i fyny yn golygu bod penderfyniad wedi’i wneud i flaenoriaethu tarfu ar unrhyw gerbydau a phobl eraill a’u hatal rhag mynd i mewn.

Dywedodd y llu fod nifer o gerbydau’n parhau yn yr ardal prynhawn ddydd Sul, ond eu bod nhw’n “dechrau gwasgaru”.

Cryfder teimladau

Dywedodd yr Uwcharolygydd Shaun Bowen: “Mae’r math hwn o ddigwyddiad yn achosi pryder a gofid sylweddol i’r gymuned, yn tarfu ar y rhai sydd eisiau defnyddio’r ardal yn briodol, yn ogystal â niweidio’r amgylchedd ac aflonyddu ar fywyd gwyllt, a dyna pam rydym yn gweithredu’n gyflym i’w cau.

“Does fawr o amheuaeth bod y mathau hyn o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio a’u trefnu’n dda iawn a bod gwybodaeth leol yn bwysig wrth ddenu’r prif grŵp i gae penodol, neu ardal o dir.

“Rydym yn sicrhau cymunedau lleol bod camau priodol yn cael eu cymryd i ddelio â’r digwyddiad hwn, a byddwn yn ymchwilio’n drylwyr i unrhyw droseddau troseddol a ddarganfyddir.

“Rydym yn deall cryfder y teimladau ynghylch hyn, gan y rhai sy’n byw yn yr ardal a’r rhai sydd eisiau mynychu nad ydynt i bob golwg yn ymwybodol o’r aflonyddwch y mae’r digwyddiadau hyn yn ei achosi.

“Gofynnwn i chi beidio â theithio i’r ardal gyda’r bwriad o ymuno â rîf, gan fod swyddogion yno a byddwch yn cael eich troi i ffwrdd.”

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys fod y digwyddiad wedi dod i ben yn hwyrach brynhawn ddydd Sul.

Ychwanegodd y llu eu bod nhw wedi delio gyda dau berson am droseddau yn ymwneud â chyffuriau a’u bod wedi aros am un person i fod mewn cyflwr diogel i yrru adref.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.