Yr Unol Daleithiau yn bomio safleoedd niwclear yn Iran

22/06/2025

Yr Unol Daleithiau yn bomio safleoedd niwclear yn Iran

Mae'r Unol Daleithiau wedi bomio tri o safleoedd niwclear Iran.

Dywedodd yr Arlywydd Donald Trump bod yr ymosodiadau ar Fordo, Natanz ac Isfahan yn oriau mân y bore wedi chwalu cyfleusterau niwclear Iran “yn llwyr”.

Mae safle Fordo yn bell o dan y ddaear mewn mynydd ac o ganlyniad dim ond yr Unol Daleithiau sydd â bom digon mawr - y GBU-57 neu'r bunker buster - i ddinistrio'r safle heb orfod defnyddio arfau niwclear i wneud hynny.

Roedd lluniau lloeren o'r safle ddydd Sul yn dangos chwech twll yn ochr y mynydd a malurion llwyd.

Dywedodd y Pentagon mewn cynhadledd i'r wasg eu bod nhw'n parhau i asesu maint y difrod.

Dywedodd Gweinidog Tramor y DU, David Lammy, nad oedd y DU wedi cymryd rhan yn yr ymosodiadau hyn.

Mewn anerchiad teledu o’r Tŷ Gwyn dywedodd Donald Trump fod yr ymosodiad wedi bod yn “llwyddiant mawr”.

Ychwanegodd y dylai Tehran “ofyn am heddwch" neu wynebu ymosodiadau "llawer mwy" yn y dyfodol.

Roedd Donald Trump wedi dweud ddydd Iau bod gan Iran bythefnos nes ei fod yn dod i benderfyniad ar yr ymosodiad ond penderfynodd ymosod ddeuddydd yn ddiweddarach.

Dywedodd gweinidog tramor Iran bod yr ymosodiadau yn rhai "gwarthus" ac fe rybuddiodd am "ganlyniadau tragwyddol".

Mewn datganiad dywedodd llywodraeth Iran fod y weithred yn datgelu “maint y llygredd sy’n llywodraethu polisi tramor America” a'u bod yn meithrin gelyniaeth tuag at “bobl Iran sy’n ceisio heddwch ac sy’n caru annibyniaeth”.

Fe wnaeth Iran ymateb gyda'u taflegrau eu hunain i gyfeiriad Israel rhai oriau yn ddiweddarach a dywedodd Israel bod 16 o bobl wedi eu hanafu.

Image
Donald Trump yn y 'Situation Room'.
Donald Trump yn y 'Situation Room'.

'Ansicr'

Fe ymatebodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Keir Starmer, drwy alw am drafodaethau.

“Mae rhaglen niwclear Iran yn fygythiad difrifol i ddiogelwch rhyngwladol,” meddai.

“Ni ellir caniatáu i Iran ddatblygu arf niwclear ac mae'r Unol Daleithiau wedi cymryd camau i leihau’r bygythiad hwnnw.

“Mae'r sefyllfa yn y Dwyrain Canol yn parhau i fod yn ansicr a sefydlogrwydd yn y rhanbarth yw’r flaenoriaeth.

“Rydym yn galw ar Iran i ddychwelyd i drafodaethau a dod i hyd i ateb diplomyddol i ddod â'r argyfwng hwn i ben.”

Llun: Y Tŷ Gwyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.