Newyddion S4C

Eisteddfod AmGen: Y Fedal Ddrama i Gareth Evans-Jones

02/08/2021
Eisteddfod

Enillydd Medal Ddrama Eisteddfod AmGen 2021 yw Gareth Evans-Jones, o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn am ei ddrama Cadi Ffan a Jan.

Dyma’r eildro iddo gyrraedd y brig yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama.

Fo hefyd oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy ddwy flynedd yn ôl, gyda’i ddrama, Adar Papur.

Mae hefyd wedi ennill gwobr ‘Y Ddrama Orau yn yr Iaith Gymraeg’ gan Gymdeithas Ddrama Cymru yn 2010 a 2012, Medal Ddrama’r Eisteddfod Ryng-golegol 2012, Coron Eisteddfod Môn 2016 a Medal Ryddiaith Eisteddfod Môn 2019.

Cafodd ei addysgu yn ysgolion Llanbedrgoch, Goronwy Owen, Benllech, a Syr Thomas Jones, Amlwch, cyn mynd i Brifysgol Bangor i astudio am radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol.

Dilynodd gwrs MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn 2014 a chwblhaodd ddoethuriaeth yn 2017.

Bellach mae’n ddarlithydd mewn Astudiaethau Crefyddol ym Mhrifysgol Bangor.

Cyflwynwyd y Fedal Ddrama eleni am ddrama fer ar gyfer y llwyfan neu’n ddigidol, heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. 

Y beirniad oedd Gwennan Mair Jones, a chafwyd pum ymgais yn y gystadleuaeth eleni. 

Wrth drafod y ddrama, Cadi Ffan a Jan, gan Mwgwd, dywedodd y beirniad: “Mae’r deialog rhwng y cymeriadau yn naturiol iawn ac yn dafodieithol ddifyr. Mae’r cymeriadau yn grwn a real a theimlwn ein bod yn eu hadnabod yn syth ac yn eu hoffi hefyd; felly rydym yn barod iawn i fuddsoddi yn y ddrama o’r dudalen gyntaf.

“Mae’n anodd iawn sgwennu comedi sydd hefyd yn llawn dyfnder a braf iawn gweld drama syml sy’n aros yn y cof. Dyma awdur addawol iawn ac yn sicr mae potensial mawr i’r ddrama hon fod yn ffilm neu ddrama lwyfan lwyddiannus iawn.”

Cyhoeddodd Gareth Evans-Jones ei nofel gyntaf, Eira Llwyd, yn 2018 a golygodd gyfrol o straeon byrion bach a gyhoeddwyd eleni, sef Can Curiad.

Mae wedi cyfrannu straeon byrion, darnau o lên feicro, a cherddi i wahanol gyfnodolion a chyfrolau, gan gynnwys O’r Pedwar Gwynt ac Y Stamp; ac mae wedi llunio dramâu ac ymgomiau ar gyfer Theatr Fach, Llangefni, criw Brain Cwmni’r Frân Wen, a Theatr Genedlaethol Cymru.

Ynghyd â llenydda, mae’n ymwneud â gwahanol fudiadau lleol – mae’n ysgrifennydd Eisteddfod Ieuenctid Marian-glas a Chymdeithas Lenyddol Bro Goronwy, yn ogystal â bod yn un o gyd-gyfarwyddwyr artistig Theatr Fach, Llangefni.

Derbyniodd ei wobr mewn seremoni arbennig yn Sgwâr Canolog y BBC yng Nghaerdydd, yn unol â’r cyfyngiadau Covid-19 presennol. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.