Maesteg: Arestio gyrrwr ar ôl i gerddwr farw mewn gwrthdrawiad â char
Mae cerddwr wedi marw mewn gwrthdrawiad â char ger Maesteg yn sir Penybont-ar-Ogwr.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod menyw lleol, 58 oed, wedi marw yn y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar Ffordd Caerau ym mhentref Caerau ger Maesteg am tua 00:40 ddydd Sul.
Dywedodd y llu fod perthnasau agos y fenyw wedi cael gwybod.
Ychwanegodd y llu eu bod nhw wedi arestio menyw 73 oed ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n ddiofal/anystyriol.
Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu trwy ddyfynnu cyfeirnod: 2500197007.