Newyddion S4C

Ymosodiad Southport: Tadau dwy ferch a gafodd eu lladd yn rhedeg Marathon Llundain

Sergio Aguiar

Bydd tadau dwy ferch a gafodd eu lladd yn ymosodiad Southport y llynedd yn rhedeg Marathon Llundain eleni er cof amdanyn nhw. 

Cafodd Alice Aguiar a oedd yn 9 oed a Elsie Dot Stancombe a oedd yn 7 oed, ynghyd a Bebe King, 6 oed, eu lladd mewn ymosodiad yn ystod dosbarth dawns ar 29 Gorffennaf y llynedd.

Bydd tad Alice, Sergio Aguiar a thad Elsie, David Stanscombe bellach yn cymryd rhan ym Marathon Llundain ddydd Sul er mwyn codi arian tuag at brosiectau a gafodd eu sefydlu er eu cof. 

Fe fydd rhieni Bebe King, Lauren a Ben, hefyd yn bresennol er mwyn cefnogi’r ddau dad wrth iddyn nhw ymgymryd â’r her. 

Image
Ymosodiad Southport
Elsie Dot Stancombe, Bebe King ac Alice Aguiar

Mewn cyfweliad gyda’r BBC, dywedodd Mr Aguiar ei fod yn teimlo y bydd Alice yno gydag ef wrth iddo redeg y ras. 

“Dwi’n dweud y byddwn ni’n gwneud hyn gyda’n gilydd - fe fyddi di efo fi trwy’r amser,” meddai. 

Dywedodd Mr Stanscombe y byddai ei ferch yn falch iawn ohono am ei ymdrechion. 

Roedd y pâr wedi gwylio’r marathon ar y teledu y llynedd ac fe ddywedodd Elsie wrtho y dylai fe rhedeg y ras er cof am ei mam-gu. 

“Doeddwn i byth yn meddwl y byddwn i’n rhedeg y marathon am y rhesymau yma,” meddai Mr Stanscombe.

Image
Mr Stanscombe
David Stanscombe (BBC News/PA Wire)

Atgofion

Bydd Mr Aguiar yn rhedeg Marathon Llundain er mwyn codi arian tuag at adeiladu maes chwarae newydd yn ysgol gynradd Churchtown yn Southport. Roedd Alice yn ogystal â Bebe yn ddisgyblion yno. 

Dywedodd Alexandra Aguiar, mam Alice, y byddai ei merch yn hoff iawn o weld ei ffrindiau yn chwarae ar faes sydd wedi’i enwi ar ei hôl. 

Mae Mr Stanscombe yn codi arian tuag at elusen y maen nhw wedi sefydlu o’r enw Elsie’s Story a fydd yn darparu grantiau i bobl ifanc mewn angen yn ardal Southport. 

“Dwi’n dweud o hyd y bydd Elsie a’r merched eraill yn byw yn hirach na ni,” medd ei mam, Jenni Stanscombe. 

Dywedodd y bydd yr holl waith y maen nhw’n gwneud yn cadw atgof y merched yn fyw am gyfnod hir iawn. 

Prif lun: BBC News/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.