Tad a gollodd ei ferch 14 oed yn galw am reolau llymach ar gynnwys ar-lein
Mae tad a gollodd ei ferch i hunanladdiad yn 14 oed wedi galw am reolau llymach ar gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol.
Daw wrth i Ofcom gyhoeddi y bydd cwmnïau cyfryngau cymdeithasol sydd ddim yn atal plant rhag gweld cynnwys niweidiol ar-lein yn wynebu dirwyon mawr o fis Gorffennaf ymlaen.
Bydd modd dirwyo cwmnïoedd hyd at 10% o’u refeniw byd-eang os nad ydyn nhw’n cyd-ymffurfio - a all olygu dirwyon yn y miliynau neu hyd yn oed y biliynau.
Bydd gan Ofcom hefyd y pŵer i geisio gorchymyn llys i wahardd mynediad i safle yn y DU, yn yr achosion mwyaf eithafol.
Ond dywedodd Ian Russell, tad Molly Russell a ddaeth a’i bywyd i ben yn 14 oed ar ôl gwylio cynnwys niweidiol ar y cyfryngau cymdeithasol, nad oedd y rheolau newydd yn ddigon cadarn.
Mae Mr Russell wedi annog y Prif Weinidog i gamu i mewn a chryfhau'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
“Rwyf wedi fy siomi gan y diffyg uchelgais yn y rheolau heddiw,” meddai.
“Yn hytrach na symud yn gyflym i drwsio pethau, y realiti poenus yw y bydd mesurau Ofcom yn methu ag atal mwy o farwolaethau ifanc fel rhai fy merch Molly.
“Rydyn ni’n colli o leiaf un bywyd ifanc i hunanladdiad sy’n gysylltiedig â thechnoleg bob wythnos yn y DU.
“Mae llai nag un o bob 10 rhiant yn meddwl bod Ofcom yn gwneud digon ac mae’n rhaid i Syr Keir Starmer ymrwymo’n ddi-oed i gryfhau deddfwriaeth diogelwch ar-lein.”
‘Gorfodaeth’
O dan y rheolau newydd bydd rhaid i unrhyw wefan sy'n cynnal pornograffi, neu gynnwys sy'n annog hunan-niweidio, hunanladdiad neu anhwylderau bwyta gymryd camau ychwanegol i wirio oedran defnyddwyr, meddai Ofcom.
Gallai hynny gynnwys defnyddio technoleg amcangyfrif oedran wyneb, cardiau adnabod, neu gerdyn cerdyn credyd.
Yn ogystal, bydd yn ofynnol i lwyfannau newid eu halgorithmau i atal cynnwys niweidiol rhag ymddangos.
Dywedodd prif weithredwr Ofcom, y Fonesig Melanie Dawes: “Mae’r newidiadau hyn yn troi dalen newydd i blant ar-lein.
“Byddant yn golygu cyfryngau cymdeithasol mwy diogel gyda chynnwys llai niweidiol a pheryglus, bydd yn eu hamddiffyn rhag dieithriaid yn cysylltu â nhw ac fe fydd yna wiriadau oedran effeithiol ar gynnwys oedolion.
“Mae Ofcom wedi cael y dasg o sicrhau diogelwch cenhedlaeth newydd o blant ar-lein, ac os bydd cwmnïau’n methu â gweithredu fe fyddan nhw’n wynebu gorfodaeth.”