Pobl fyddar yng Nghymru yn osgoi ffonio am ambiwlans medd elusen
Mae pobl fyddar yng Nghymru wedi osgoi ffonio am ambiwlans am nad ydyn nhw’n ffyddiog y byddwn nhw’n gallu cyfathrebu gyda’r gwasanaethau brys, yn ôl elusen.
Mae adroddiad newydd gan elusen RNID Cymru yn dweud bod GIG Cymru yn methu â chwrdd ag anghenion pobol sydd â nam ar eu clyw neu sy’n fyddar.
Mae pobl sydd â nam ar eu clyw neu sy’n fyddar yn dal heb y systemau a’r prosesau sydd eu hangen i gyflawni hawl pobl i gael gofal iechyd, medden nhw.
Roedd hynny’n golygu eu bod yn “wynebu rhwystrau sylweddol i ofal iechyd, o fethu â threfnu apwyntiad â meddyg teulu, i beidio â deall beth sy'n digwydd iddynt mewn gofal brys”.
Roedd 73% o’r rheini a holwyd gan RNID Cymru yn dweud nad oedd GIG Cymru erioed wedi gofyn iddyn nhw am eu hanghenion o ran derbyn gwybodaeth.
Dim ond 1 mewn 5 oedd yn teimlo fod pethau wedi gwella yn y ddegawd ddiwethaf.
Roedd un mewn deg wedi osgoi ffonio ambiwlans ac roedd hynny’n golygu bod eu hiechyd yn cael ei beryglu, meddai RNID Cymru.
“Nid mater bach yw hwn,” meddai’r adroddiad. “Mae 1 o bob 3 o bobl yng Nghymru yn fyddar neu wedi colli rywfaint o’u clyw (mwy na 900,000 o bobl).
“Rydym yn amcangyfrif bod gan o leiaf 370,000 o’r rheini angen addasiadau mewn lleoliadau gofal iechyd, neu o leiaf, i staff weithredu gyda lefel dda o ymwybyddiaeth o fyddardod.
“Rydym yn amcangyfrif na fyddai 60,000 o bobl yn gallu clywed y rhan fwyaf o wybodaeth ar lafar.
“Gyda phoblogaeth sy’n heneiddio, mae disgwyl i’r ffigwr hwn gynyddu, felly rhaid i GIG Cymru fod yn barod i ddiwallu’r anghenion hyn.”
'Methiant'
Dywedodd Polly Winn, Rheolwr Materion Allanol RNID yng Nghymru: “Nid yw’n dderbyniol bod pobl yn gadael apwyntiadau meddygol heb ddeall eu diagnosis, neu’n cael eu gorfodi i rannu manylion iechyd personol gyda’u teulu oherwydd ni fydd GIG Cymru yn darparu cyfieithwyr ar y pryd.
“Mae hyn yn wahaniaethu systematig - methiant o ran cydraddoldeb sy’n peryglu bywydau. Mae’r sefyllfa’n gofyn am ddiwygiad brys.”
Dywedodd llefarydd ar ran GIG Cymru bod y sefydliad yn asesu canfyddiadau'r adroddiad a'u bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella mynediad i bob claf.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n adnewyddu y safonau y dylai pobl fyddar a'r rheini sydd yn colli eu clyw ddisgwyl eu derbyn tra'n cael gofal iechyd yng Nghymru.
Yn ol llefarydd fe fyddai hynny yn sicrhau bod pobl fyddar, pobl sy'n colli eu clyw a'u gofalwyr yn gwybod ymhle y gallen nhw gael y gwasanaethau a'r gofal priodol o fewn eu cymunedau.