Newyddion S4C

Pa ddinas yng Nghymru gafodd ei tharo galetaf gan sgamiau tocynnau Oasis?

Twyllo, Oasis

Mae ffans Oasis un o ddinasoedd de Cymru ymhlith y rheini oedd yn fwyaf tebygol o gael eu sgamio ers i docynnau fynd ar werth y llynedd.

Yn ôl gwaith ymchwil gan Lloyds Banking Group, mae ffans y brodyr Gallagher ar draws y DU wedi colli mwy ‘na £2 miliwn ar ôl ceisio prynu tocynnau ar gyfer eu taith yr haf hwn o ganlyniad i sgamwyr.

Roedd dros hanner (54%) yr achosion o ffans yn cael eu sgamio wrth brynu tocynnau yn ymwneud â gigiau Oasis.

Y mwyaf i rywun golli ar ôl cael eu twyllo oedd dros £1,700, gyda phobl yn colli £436 ar gyfartaledd, meddai Lloyds.

Ac mae Casnewydd yn ne Cymru ymhlith y dinasoedd a gafodd eu taro galetaf gan sgamiau, ychwanegodd y banc.

Mae’r ddinas yn ymddangos yn y degfed safle ar restr Lloyds Banking Group sydd yn nodi’r llefydd yn y DU gyda’r nifer fwyaf o bobl yn dweud eu bod nhw wedi cael eu twyllo.

Prynwyr tocynnau yng Nghaeredin yn yr Alban a gafodd eu taro waethaf gyda Warrington yn Swydd Caer yn ail a Manceinion yn y trydydd safle.

'Twyllo'

Dywedodd Liz Ziegler, sef cyfarwyddwr atal twyll Lloyds, bod nifer fawr o bobl yn cael eu twyllo ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Prynu’n uniongyrchol gan fanwerthwyr awdurdodedig ag enw da yw’r unig ffordd o sicrhau eich bod yn talu am docyn go iawn,” meddai.

Unigolion rhwng 35 a 44 oed oedd y mwyaf tebygol o gael eu sgamio, sef bron i 30% o’r holl achosion yn ôl ffigyrau Lloyds.

Mae mwy ‘na 1,000 o bobl wedi dweud wrth Lloyds eu bod nhw wedi cael eu sgamio ers i docynnau Oasis fynd ar werth yn ystod yr haf y llynedd.

Yn ôl ei amcangyfrifon, mae’n debygol bod o leiaf 5,000 o bobl wedi cael eu twyllo ar draws y DU, gan golli dros £2 miliwn, meddai'r banc.

Llun: PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.