Dau o Sir Gâr yn serennu yng nghyfres newydd Race Across The World
Dau o Sir Gâr yn serennu yng nghyfres newydd Race Across The World
Mae dau o Sir Gâr yn ymddangos ar y rhaglen boblogaidd Race Across The World eleni.
Bydd pum pâr yn cymryd rhan yn y ras ar draws y byd - ond dydyn nhw ddim yn cael neidio ar awyren, defnyddio ffôn symudol na defnyddio cerdyn banc.
Un o’r parau fydd yn ymddangos ar y rhaglen eleni fydd Sioned Cray, a’i phartner Fin, sydd wedi bod gyda’i gilydd ers pedair blynedd a hanner.
Roedd disgwyl i 7 miliwn o bobl wylio’r bennod gyntaf o’r rhaglen boblogaidd ar BBC 1 neithiwr.
Mae’r ras yn dechrau yn Tsieina, ac yn gorffen yn Ne India, ond nid yw’n hysbys eto a fydd pob pâr yn cyrraedd y llinell derfyn ai peidio.
Dywedodd Sioned Cray, nad oedd hi’n meddwl bod cymryd rhan ar y rhaglen yn syniad da ar y dechrau, ond bod ei mam a’i brawd wedi llwyddo ei pherswadio yn y diwedd.
“Roeddwn i’n gwylio’r rhaglen gyda’r teulu drwy’r adeg” meddai wrth raglen Heno.
Yn y diwedd, penderfynodd fynd amdani a rhoi ei henw hi a’i phartner Fin ymlaen i fod yn rhan o’r rhaglen, a hynny heb i Fin wybod.
“Roedden ni moyn trafeilio’r byd a phrofi pethau gwahanol yn y byd,” meddai.
“Roedd e’n bach o sypreis ond roedd e’n brofiad anhygoel.
“Mae Tsieina’n wahanol iawn i Gymru, shwd gyment o bobl o amgylch ni trwy’r amser, ond mi wnaethon ni brofi gwahanol bethe a roedd e’n grêt."
'Cerdded'
Roedd y cystadleuwyr yn gwybod mai yn Tsieina yr oedden nhw’n dechrau ar y ras, ond doedden nhw ddim wedi cael gwybod lle’r oedd y llinell derfyn tan hwyrach ymlaen yn y rhaglen, ac felly roedd angen iddyn nhw baratoi ar gyfer pob tywydd.
“Roedden ni angen pacio ar gyfer tywydd twym, tywydd oer, eli haul, dillad glaw, a sleeping bags… roedd y bag na’n drwm a doedd ddim yn hwyl cario fe o gwmpas!” meddai.
Dywedodd fod Fin a hithau’n mwynhau mynd i’r gampfa, ac felly roedd hynny wedi gwneud y sialens yn haws iddyn nhw, “ond roedd lot o gerdded a lot o gerdded!”
Ychwanegodd fod y profiad yn un “ofnadwy o dda”, a’u bod wedi cael y cyfle i “weld be oedd pobl eraill yn ei wneud mewn gwledydd eraill”.