Newyddion S4C

Profiad ‘cherw-felys’ symud dolffin o draeth ar Ynys Môn

Dewi'r dolffin

Profiad "chwerw-felys" oedd symud corff dolffin yr oedd hi'n ei nabod yn dda o draeth ar Ynys Môn, yn ôl un arbenigwr ar fywyd y môr.

Mae Elan Jones wedi bod yn gweithio fel Swyddog ymgysylltu i’r Sea Watch Foundation, sef elusen sy’n canolbwyntio ar gadwraeth mamaliaid y môr, ers 2023.

Roedd hi’n un o’r rhai a wnaeth helpu i gael y dolffin o’r enw Dewi oddi ar draeth Rhosneigr yr wythnos ddiwethaf, ar ôl i'r sefydliad Monitro Amgylcheddol Morol dderbyn nifer o alwadau gan drigolion lleol yn adrodd amdano.

Roedd y dolffin yn wryw a oedd yn mesur 3.29m o hyd, ac roedd yn un o'r rhai trymaf i'r sefydliad ymchwilio iddo, gyda phwysau o 510kg. 

Image
Dewi ar y sledge
Roedd yn rhaid cael chwech o bobl i'w gario. Llun: Elan Jones

Roedd modd i'r tîm ei adnabod drwy ddefnyddio dull o’r enw ‘ffoto-ID’, sy’n edrych ar esgyll ddorsal y dolffiniaid sydd “fel hoel-bysedd” yn ôl Elan.

Mae’r marciau, crafiadau a rhiciau yn unigryw i bob dolffin, ac roedd modd i’r tîm adnabod mai Dewi, neu 'Gandalf' yn Saesneg, oedd y dolffin o Fae Ceredigion a oedd yn gyfarwydd i'r arbenigwyr ers 1994. 

Yn ôl Elan, mae Bae Ceredigion yn un o ddau leoliad lle mae dolffiniaid trwynpotel yn nofio yn y DU, ac mae’r llall yn y Moray Firth yn Yr Alban.

Mae amcangyfrifon o ddadansoddiadau ffoto-ID yn awgrymu fod 211 ohonynt yn nofio yn ardal Bae Ceredigion.

Doedd gweld bod dolffin trwynpotel wedi nofio o Fae Ceredigion i fyny at Rosneigr “ddim yn syndod” i Elan.

Mae dolffiniaid yn arfer teithio o un lle i’r llall, yn enwedig yn y gaeaf lle mae llawer o’r boblogaeth o Fae Ceredigion yn symud tuag at Ynys Manaw ac ardaloedd eraill o Fôr Iwerddon.

Image
Esgyll Gandalf tra roedd yn fyw
Esgyll Dewi tra'r oedd yn fyw. Llun: Elan Jones

Mae gan y Sea Watch Foundation gatalog o esgyll dolffiniaid trwynpotel, sy’n eu galluogi i dynnu llun o’u hesgyll ddorsal ac yna’u cymharu â’r rhai yn y catalog.

Dywedodd Elan: “Er fod o'n drist iawn i ddod o hyd i anifail rydym yn adnabod ac wedi gweld yn aml, mae'n ofnadwy o ddiddorol i gael cofnod cyflawn o'i fywyd.”

Roedd gweld Dewi ar y traeth yn deimlad “bitter-sweet ofnadwy” i Elan.

“Yn amlwg roedd o’n drist bod ei fywyd wedi dod i ben, yn enwedig unigolyn rydym ni fel elusen wedi bod yn dilyn a gweld yn aml dros y blynyddoedd,” meddai.

“Ond roedd hefyd yn hollol ddiddorol gallu gweld anifail fel hyn mor agos allan o'r dŵr, a cael cyfle i ddysgu mwy am yr anifeiliaid yma.”

Ychwanegodd ei bod wedi gweld dolffiniaid trwynpotel sawl gwaith wrth iddyn nhw ddod yn agos at eu cwch wrth ymchwilio, ond roedd hi “wedi synnu” wrth weld maint Dewi.

“Roedd o yn hollol swreal!” meddai.

Image
Esgyll Dewi ar y traeth
Esgyll Dewi ar y traeth. Llun: Elan Jones

Wedi i’r tîm gael eu galw at Dewi i Rosneigr, roedd yn rhaid ei drosglwyddo i Brifysgol Lerpwl er mwyn cynnal archwiliad post-mortem.

“Roedd rhaid cael Dewi ar rhyw fath o sledge, dwi'n cofio edrych ar y sefyllfa a meddwl i fy hyn 'Sut ar wyneb y ddaear mae hyn am weithio!?'" meddai Elan.

Oherwydd ei bwysau trwm o 510kg, roedd yn rhaid i chwe aelod o’r tîm ei godi, a bu’n rhaid i feic cwad ei lusgo o’r traeth i’r maes parcio at y trelar i’w gludo i Lerpwl.

Dangosodd yr archwiliad fod ganddo ddau rwystr yn ei goluddion, a’u bod nhw wedi achosi i'r coluddion hollti, ac mai dyma oedd yn fwyaf tebygol wedi achosi ei farwolaeth.

Nid yw'r tîm yn sicr o beth yn union yw'r rhwystrau, ac maen nhw wedi cael eu hanfon i ffwrdd am ymchwiliad pellach.

Pwysleisiodd Elan ei bod yn ”bwysig cael wybod beth yw'r ddau rwystr rhag ofn fod hyn yn rhywbeth fydd yn fygythiad i'r dolffiniaid eraill yr ardal.”

Os ydych chi’n dod ar draws mamal morol fel morloi, llamhidyddion, dolffiniaid neu forfilod, bydd angen ichi gysylltu â British Divers Marine Life Rescue (BDMLR) ar 01285 765546 os yn fyw, neu gysylltu â’r UK Cetacean Strandings Investigation Programme
(CSIP) ar 0800 652 0333 os yn farw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.