Newyddion S4C

Elinor Bennett yn dychwelyd i'r llwyfan gyda dwy delyn hanesyddol

Elinor Bennett

Bydd y delynores ryngwladol, Elinor Bennett yn dychwelyd i'r llwyfan i roi cyfres o berfformiadau gyda dwy delyn hanesyddol fis Mehefin.

Bydd Elinor Bennett yn perfformio darnau cerddoriaeth o’r 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif ar ddwy delyn a gafodd eu gwneud yn y cyfnodau hynny.

Mae Elinor Bennett wedi bod yn flaenllaw ym maes perfformio ac addysgu cerddoriaeth gan deithio ledled y byd i gynnal cyngherddau, datganiadau a dosbarthiadau meistr.

Er ei bod hi wedi ymddeol, bydd yn dychwelyd yn arbennig ar gyfer  cyngerdd dwyieithog, Llais Hen Delynau, yn cynnwys cerddoriaeth gan sawl cerddor gwahanol gan gynnwys Handel, Rosetti, Spohr a’r telynor dall, John Parry.

Yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych, fydd y perfformiad cyntaf, a hynny ar ddydd Mercher, 18 Mehefin.

Parc Pendine yw prif noddwr y cyngherddau, sef sefydliad gofal sy’n hybu a hyrwyddo'r celfyddydau drwy Ymddiriedolaeth Celfyddydau a Chymuned Pendine (PACT).

Bydd y perfformiadau yn rhan o ddathliadau pen-blwydd 40 Parc Pendine, sydd â naw cartref gofal  yn Wrecsam a Chaernarfon.

Dywedodd Mario Kreft , perchennog Parc Pendine ynghyd â’i wraig, fod Elinor yn “drysor cenedlaethol” ac yn “delynores hynod ddawnus sydd wedi creu argraff fythgofiadwy ar lwyfannau’r byd.”

“Rydym yn hynod lwcus ei bod hi'n Gymraes.” meddai.

'Amser maith'

Dywedodd fod Elinor wedi ysbrydoli cenedlaethau o delynorion ifanc “sydd wedi dilyn yn ôl ei thraed disglair”.

Dywedodd Elinor, sy'n byw ger Caernarfon, ei bod wedi bod yn berchen ar y telynau ers blynyddoedd lawer ac “wedi bod eisiau gwneud rhywbeth gyda nhw ers amser maith.”

“Cawsant eu gwneud i gael eu chwarae ac nid i’w rhoi mewn cornel yn hel llwch,” meddai.

Fe gafodd un o’r telynau y bydd hi’n ei chwarae yn y rhaglen ei gwneud gan y gwneuthurwr telyn adnabyddus, John Richard o Lanrwst tua 1755.

Yn ôl Elinor, mae telynau teires, sydd â thair rhes o linynnau, yn “anodd eu chwarae, yn ddrud i'w llinynnu, ac aeth yn angof gan delynorion mewn gwledydd eraill.”

Ond, cawsant eu mabwysiadu gan yr hen delynorion Cymreig, a daeth yn offeryn i bobl gyffredin yng Nghymru yn ystod y 19eg ganrif.

Dywedodd Elinor ei fod wedi bod yn “agoriad llygad” cael canu’r hen delynau, gan fod y sain a’r technegau chwarae yn “wahanol iawn i’r delyn fodern”. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.